Dydd Iau 24 Mawrth 2022
O Dydd Llun 28 Mawrth, bydd ein tîm Brechu Torfol yn symud o Stadiwm Cwmbrân i’w lleoliad newydd ar Gampws Pont-y-pŵl Coleg Gwent. Bydd rhai sydd ag apwyntiad brechu dros yr wythnosau nesaf yn gweld bod y lleoliad newydd hwn wedi’i nodi ar eu llythyr gwahoddiad am apwyntiad.
Dywedodd Glyn Jones, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Ers mis Rhagfyr 2020, mae Stadiwm Cwmbrân wedi bod yn gartref i’n tîm brechu torfol ac wedi ein help i amddiffyn ein cymunedau gyda brechiadau. Byddwn yn fythol ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am eu cefnogaeth wrth i ni nawr ddychwelyd Stadiwm Cwmbrân i’r gymuned.
Hoffwn hefyd ddiolch i Goleg Gwent am roi cartref i ni i barhau â’r cyfnod nesaf o’r rhaglen frechu.”
Cyrraedd Campws Pont-y-pŵl Coleg Gwent:
Campws Pont-y-pŵl Coleg Gwent
Heol Blaendâr
Pont-y-pŵl
NP4 5YE