Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

 

31/12/21
'Fad Diets' - beth yw'r niwed?

Gyda thua 63% o boblogaeth oedolion y DU yn cael eu hystyried yn rhy drwm, mae dechrau'r Flwyddyn Newydd yn amser pan mae gan unigolion fwriadau da i newid i ffordd iachach o fwyta. Fodd bynnag, mae hwn hefyd yn amser brig pan fydd cyfryngau cymdeithasol ac enwogion yn ceisio dylanwadu ar bobl i ddilyn y duedd ddeiet ddiweddaraf.

23/12/21
Cyfathrebu dros y Dolig i Gleifion yr Adran Frys a'u Teuluoedd

Mae'r Nadolig yn amser i deuluoedd fod gyda'i gilydd, ac felly rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i deuluoedd allu siarad â'u hanwyliaid sy'n gleifion yn ein Hadran Achosion Brys ar Ddydd Nadolig.

23/12/21
Gweithred Caredigrwydd Y Nadolig o Ysgol Gynradd Leol

Diolch yn fawr i ddisgyblion blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Glan Usk yng Nghasnewydd, sydd wedi ysgrifennu llythyrau Nadolig at y plant sâl yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor fel rhan o'u prosiect ar Garedigrwydd.

22/12/21
Gall Menywod Beichiog Fynychu Unrhyw Ganolfan Frechu Heb Apwyntiad

Sylwch y gall menywod beichiog fynychu unrhyw un o'n Canolfannau Brechu Torfol heb apwyntiad ar gyfer unrhyw un o'u brechlynnau COVID-19.

Os ydych chi dros 20 wythnos yn feichiog, cerddwch i flaen y ciw, gwnewch eich hun yn hysbys i'r staff a byddwch yn cael eich tracio'n gyflym fel blaenoriaeth.

21/12/21
Diolch o galon i'r Fferyllwyr Cymunedol sy'n gweithio yn ardal ein Bwrdd Iechyd!

Diolch o galon i’r Fferyllwyr Cymunedol yn ardal ein Bwrdd Iechyd, sydd, rhwng Ionawr a Thachwedd, wedi:

21/12/21
Brechiadau yn ystod mis Rhagfyr
16/12/21
Uwchraddio Rhwydwaith yn Ysbyty Nevill Hall

Ar Ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr byddwn yn cynnal uwchraddiad system yn Ysbyty Nevill Hall a fydd yn gofyn am doriad system gyfan rhwng 06:00 a 08:00. Yn ystod yr amser hwn, ni fydd gan y safle fynediad i Rwydweithiau, Teleffoni na Wifi.

20/12/21
Sesiwn Brechu Atgyfnerthu HEDDIW YN UNIG yng Nghanolfan Casnewydd Hyd at 2.30yp

Mae yna nifer o apwyntiadau ar gael ar fyr rybudd, ac yna mae yna sesiwn galw heibio HEDDIW (Dydd Llun 20 Rhagfyr) yng Nghanolfan Casnewydd tan 2:30yp y prynhawn yma.

Bydd hyn ar gyfer dosau cyntaf 12+, ail ddosau 18+ (rhaid iddo fod o leiaf 8 wythnos o'ch dos cyntaf) a Frechiadau Atgyfnerthu (dros 30 oed).

17/12/21
Casglu Blychau Eitemau Siarp a Bagiau Gwastraff Clinigol Cleifion

Ni fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casglu dros gyfnod y Nadolig, bydd y gwasanaethau'n rhedeg fel arfer.

15/12/21
"Cysylltwn ni â chi, nid chi â ni" meddai'r Bwrdd Iechyd am Frechiadau Atgyfnerthu

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi pledio i drigolion lleol, gan ofyn iddynt aros i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu a pheidio â chysylltu â'r Bwrdd Iechyd i gael manylion eu hapwyntiad.

09/12/21
Newidiadau Dros Dro i Oriau Agored y Ganolfan Cyfeirio ac Archebu Cleifion Allanol

Mae'r Ganolfan Cyfeirio ac Archebu Cleifion Allanol wedi gwneud newidiadau dros dro i'w horiau agor.

08/12/21
Un Flwyddyn o'n Rhaglen Brechu Covid-19

Bu heddiw'n nodi blwyddyn ers ddechreuad ein Rhaglen Brechu Torfol uchelgeisiol, wrth i ni rhoi ein brechiadau Covid-19 cyntaf i'n poblogaeth leol a chymryd ein camau cyntaf tuag at amddiffyn Gwent rhag Coronafeirws.

07/12/21
Cefnogi Diwrnod Hawliau'r Gymraeg #Maegenihawl

Heddiw, Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021, rydym yn cefnogi Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg #maegenihawl, lle rydym yn hyrwyddo rhai o'r gwasanaethau Cymraeg yr ydym yn eu cynnig i'n cleifion a'n staff fel rhan o'u Hawliau Iaith Gymraeg.

06/12/21
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ennill Gwobr Hyrwyddwr Trafnidiaeth Gymunedol

Mae'r Bwrdd Iechyd yn falch o gyhoeddi bod ei Brosiect Cludiant i Iechyd wedi ennill Gwobr Hyrwyddwr Trafnidiaeth Gymunedol genedlaethol.

06/12/21
Lansio Bysiau Cymunedol 'Trafnidiaeth i Iechyd' yng Ngwent

Wedi'i ariannu gan Gronfa Cludiant Cymunedol Trafnidiaeth i Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bydd The Parish Trust yn lansio eu bws gwennol newydd Trafnidiaeth i Iechyd o Ddydd Mawrth 7 Ragfyr.

06/12/21
Diweddariad i'r Canllawiau Hunan-ynysu ar gyfer Cysylltiadau Agos ag Achosion Omicron

Gan fod yr strain Omicron newydd o Covid-19 bellach wedi cyrraedd Cymru, nodwch y newid yn y rheolau ynysu ar gyfer cysylltiadau ag achosion Omicron.

03/12/21
Diweddariad gan Dîm Brechu Torfol Covid-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Yng ngoleuni cyhoeddiadau’r wythnos dwethaf gan JCVI ynghylch ehangu rhaglen brechu Covid-19, rydym yn ddealladwy wedi derbyn llawer iawn o ymholiadau gan ein preswylwyr ynghylch pryd, ble a sut y byddant yn derbyn eu hail ddosau atgyfnerthu neu eu dosau sydd newydd eu cyhoeddi.

03/12/21
Ymddiriedolaeth y Plwyf: Lansio Bysiau Gwennol Cymunedol

Wedi'i ariannu gan Gronfa Cludiant Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bydd Ymddiriedolaeth y Plwyf yn lansio eu Bws Gwennol Cludiant i Iechyd newydd sbon o ddydd Mawrth 7fed Rhagfyr.

02/12/21
Claf Gofal Lliniarol yn Priodi Partner gyda Chymorth gan Staff yr Ysbyty

Llwyddodd claf yn ystod wythnosau olaf ei fywyd i gyflawni un o'i ddymuniadau olaf trwy briodi ei bartner tymor hir yr wythnos diwethaf, wrth i'r Tîm Gofal Lliniarol a Ward 4/3 yn Ysbyty Nevill Hall drefnu eu priodas ar y ward.

02/12/21
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Penodi Is-Gadeirydd Dros Dro

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau penodiad Pippa Britton yn Is-Gadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan tan 31 Mawrth 2022.