Neidio i'r prif gynnwy

Sesiwn Brechu Atgyfnerthu HEDDIW YN UNIG yng Nghanolfan Casnewydd Hyd at 2.30yp

Mae yna nifer o apwyntiadau ar gael ar fyr rybudd, ac yna mae yna sesiwn galw heibio HEDDIW (Dydd Llun 20 Rhagfyr) yng Nghanolfan Casnewydd tan 2:30yp y prynhawn yma.

Bydd hyn ar gyfer dosau cyntaf 12+, ail ddosau 18+ (rhaid iddo fod o leiaf 8 wythnos o'ch dos cyntaf) a Frechiadau Atgyfnerthu (dros 30 oed).

Rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Dos atgyfnerthu ar gyfer pobl sy'n 30 oed a'n hŷn
  • Rydych chi wedi'ch cofrestru gyda Meddyg Teulu Gwent (Bwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen)
  • Cawsoch eich ail ddos fwy na 3 mis yn ôl
  • Mae dros 4 wythnos ers prawf bositif neu symptomau COVID-19

Os ydych chi eisoes wedi derbyn apwyntiad, cadwch yr apwyntiad hwn a pheidiwch â mynychu'r sesiwn galw heibio.

Gwisgwch dillad cynnes oherwydd efallai bod ciw y tu allan, ond gwisgwch haenau o ddillad fel y gellir cyrraedd eich braich.

Diolch ymlaen llaw am eich amynedd.