Ymunwch â ni yn ein Grŵp Cefnogi Canser yr Ysgyfaint a Mesothelioma a gynhelir bob dydd Mercher cyntaf y mis, a gynhelir yn Theatr y Gyngres.
Cafodd ein cleifion ar Ward C7 Dwyrain yn Ysbyty Brenhinol Gwent amser gwych yn mynd i ysbryd Calan Gaeaf gyda sesiwn cerfio pwmpenni!
Mae rhai cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn elwa oherwydd gwasanaeth digidol cyfleus sy’n caniatáu i bractisau meddygon teulu anfon presgripsiynau’n electronig i’r fferyllfa gymunedol neu’r dosbarthwr o’u dewis.
Ymwelodd yr Athro Claire Anderson, Llywydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, â Thîm Fferylliaeth Ysbyty Athrofaol y Grange ddydd Gwener 18 Hydref.
Cymerwch olwg ar Gylchlythyr Cyfeillion Gardd Furiog Llanfrechfa Grange, sy'n edrych yn ôl ar ein tymor haf ac yn cynnwys taith gyflym o amgylch yr ardd, awgrymiadau da ar gyfer compostio a llawer mwy.
Mae Uned Gofal y Fron Ysbyty Ystrad Fawr wedi gweld nifer syfrdanol o 7430 o gleifion hyd yma ers ei hagor ym mis Chwefror eleni, ac mae ei thîm ymroddedig o staff gofalgar yn fwy angerddol nag erioed am gefnogi cleifion drwy gydol eu taith canser y fron.
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos o weithredu sy’n cael ei chynnal yn y DU i annog cyrff cyhoeddus, partneriaid allweddol a chymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt i gydweithio i fynd i’r afael â throseddau casineb lleol.
Yn ystod cyfnodau gwahanol yn ein bywydau, efallai y byddwn eisiau ystyried beth sy’n bwysig i ni pe byddai newidiadau’n digwydd i’n iechyd a’n lles.
Annwyl bawb,
Rydym yn estyn allan i ofyn am eich cefnogaeth wrth gylchredeg ein harolwg diweddaraf gyda'ch rhwydweithiau. Nod ein harolwg yw darganfod profiadau pobl o gael mynediad at ofal brys mewn ysbyty.
Mae ein harolwg yn fyw o 30 Medi - 27 Hydref. Yn ogystal, rydym yn cynnal sesiwn adborth ar-lein ddydd Mercher 23 Hydref, rhwng 6pm a 7pm.
Wrth i Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ddod i ben, mae Louise Howells, Prif Fydwraig Profedigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi trafod pwysigrwydd helpu teuluoedd i drysori eu hatgofion gwerthfawr wrth brofi torcalon colli babi.
Bydd Geraldine Bukirwa, Nyrs Newyddenedigol yn Ysbyty Athrofaol y Grange, yn ymddeol yr wythnos hon ar ôl gweithio am 41 mlynedd fel bydwraig a nyrs newyddenedigol - ond nid oes ganddi unrhyw gynlluniau i arafu.
Heddiw yw Diwrnod Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP).
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wedi cymryd cam sylweddol tuag at gynaliadwyedd drwy ddisodli ei fflyd o gerbydau cynnal a chadw disel gyda faniau trydan. Daw'r newid hwn yn sgil yr angen i adnewyddu'r fflyd bresennol a chreu arbedion ariannol ac amgylcheddol.
Rydym wedi gweld yr effaith anhygoel y gall gweithgarwch corfforol ei chael ar wella iechyd meddwl. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda Sport in Mind ,
Mae heddiw’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a hoffai ein tîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) anfon neges atoch chi fel rhieni/gofalwyr sy’n pryderu am iechyd meddwl eich plentyn, i hunan-atgyfeirio trwy ein Llesiant GOFOD Gwent.
Gall y ffliw beryglu bywyd pobl â chyflyrau iechyd penodol. Dyna pam mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn annog y rhai sydd mewn perygl clinigol i sicrhau eu bod yn cael eu brechu yn erbyn y ffliw yn ogystal â COVID-19 yr hydref hwn. Bydd yn helpu i'w hamddiffyn rhag cael heintiau eilaidd.