Neidio i'r prif gynnwy

Y Sgwrs Fawr: Cynllunio Gofal y Dyfodol

Dydd Iau 17 Hydref 2024


Yn ystod cyfnodau gwahanol yn ein bywydau, efallai y byddwn eisiau ystyried beth sy’n bwysig i ni pe byddai newidiadau’n digwydd i’n iechyd a’n lles. Mae Cynllunio Gofal y Dyfodol (FCP) yn ymwneud â meddwl a chynllunio o flaen llaw a gall helpu pobl o bob oed yn ystod unrhyw gyfnod mewn bywyd. Efallai bod FCP yn golygu cynnal trafodaethau rhwng unigolion, y rheiny sydd agosaf atynt a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rhoi cyfle i bobl gynllunio ar gyfer newidiadau a all ddigwydd yn y dyfodol o ran eu iechyd a’u gofal. Er bod profiadau a barn pawb yn bersonol iddynt hwy, mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwybod beth sy’n bwysig i bob un ohonom a bod hyn yn cael ei barchu.
 

 

 

 

Hoffem wahodd unrhyw un sydd â diddordeb, neu unrhyw un sydd â phrofiad o FCP. Bydd adborth pobl yn cael ei ddefnyddio i siapio’r ffordd y byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth a gwella’r cymorth ar gyfer y bobl hynny a’u teuluoedd sy’n dymuno ystyried FCP.

Credwn yng ngwir werth adborth o gymunedau amrywiol a hoffem groesawu unigolion heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaeth sifil.


I gofrestru ar gyfer y digwyddiad wch i wefan Eventbrite .
Ychydig o leoedd sydd ar gael felly archebwch eich lle’n gynnar.

Os oes angen cymorth arnoch yn ystod y digwyddiad, er enghraifft, cyfieithydd, system dolen ac ati, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru.

Os nad oes modd i chi fynychu, ond yr hoffech drafod FCP gyda ni, cysylltwch â 01633 493753 neu abb.futurecareplanning@wales.nhs.uk