Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

 

30/04/20
Ymunwch â Ni i Gofio'r Rhai a Gollwyd yn Ystod Covid 19

Hoffem ddweud 'diolch yn fawr' i'r cyhoedd yng Ngwent am ddangos eu gwerthfawrogiad o'r GIG a staff gofal iechyd eraill bob nos Iau. Heno, bydd y Bwrdd Iechyd yn troi tri o'n hysbytai yn las i gofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau oherwydd Covid-19.

29/04/20
Diwrnod Ewropeaidd Undod Rhwng Cenedlaethau!
Heddiw yw Diwrnod Ewropeaidd Undod rhwng Cenedlaethau.
 
Mae'r diwrnod hwn yn cydnabod y cysylltiad rhwng cenedlaethau, yn tynnu sylw at yr angen i frwydro yn erbyn rhagfarn ar sail oed, ac yn ein galluogi i gysylltu fel sefydliadau i hyrwyddo prosiectau ac ymarfer rhwng cenedlaethau.
28/04/20
Cyfyngiadau Ymweld Diweddaraf 28 Ebrill 2020
27/04/20
384 o welyau ychwanegol bellach ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Mae yna nawr 384 o welyau ychwanegol ar gael ac yn barod i gleifion, pe bai eu hangen yn ystod yr achos Coronafeirws.

Fe wnaeth contractwyr sy'n adeiladu Ysbyty newydd Athrofaol y Faenor yn Llanfrechfa, Cwmbran, drosglwyddo nifer o wardiau gorffenedig heddiw (Dydd Llun, 27ain Ebrill) - fisoedd yn gynt na'r disgwyl.

26/04/20
Gofyn am CDs Sbâr am Gleifion ar Wardiau Ein Hysbytai

A ydych wedi defnyddio'r amser ychwanegol yn y tŷ i glirio rhai o'r cypyrddau, ac wedi dod o hyd i hen CDs nad oes angen arnoch mwyach?

Os felly, byddem wrth ein boddau i dderbyn rhain i wneud defnydd da ohonynt.

23/04/20
Profwyd Mwy o Weithwyr Allweddol am Goronafeirws yn Rodney Parade

Mae Rodney Parade yng Nghasnewydd yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws.

17/04/20
Neges gan y Gwasanaethau Strôc

Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n peryglu bywyd ac sy'n digwydd pan fydd ymyrraeth â'r cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd.

16/04/20
Bwrdd Iechyd Yn Cydweithio Ag Ysbytai Preifat I Ddarparu Gwelyau Ychwanegol Yn Ystod Yr Achosion Coronaferiws

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio gydag Ysbyty St Joseff yng Nghasnewydd i ddarparu 36 o welyau ychwanegol i gleifion.

14/04/20
Cyflwyniad Gwasanaeth Negeseuon Newydd i Gadw Cleifion Ysbyty Mewn Cysylltiad ag Anwyliaid

Yn dilyn y penderfyniad anodd a wnaed i gau ein holl safleoedd ysbyty i ymwelwyr, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth 'Negeseuon o'r Cartref' newydd i gadw cleifion Ysbyty mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod yr achos Coronafeirws.

10/04/20
Rhowch Ddiolch I'r Rhai Bach Am Aros Gartref Dros Y Pasg Gyda'r Dystysgrif hon!

Rydym yn gwerthfawrogi ei bod hi'n anodd iawn i blant aros adref y Pasg hwn, felly beth am ddangos iddyn nhw pa mor ddiolchgar ydych chi trwy argraffu'r poster hwn a'i gyflwyno iddyn nhw?

09/04/20
Rheoli Straen Ar-lein

Mae straen yn ymateb arferol i'r amseroedd ansicr sy'n newid yn gyflym yr ydym i gyd yn byw ynddynt ar hyn o bryd.

03/04/20
Ail Gyfres O Raglen Gofal Dwys, 'Critical', I Ddechrau Ar Ddydd Sul, 5ed Ebrill
02/04/20
'Rhestr Ddymuniadau' Amazon Swyddogol Y Bwrdd Iechyd Nawr Ar Gau

Sylwch, oherwydd haelioni syfrdanol pobl Gwent, mae ein Rhestr Dymuniadau Amazon ar gyfer eitemau angenrheidiol i gleifion bellach ar gau.

01/04/20
Tudalen Elusen Coronafirws y Bwrdd Iechyd yn Cyrraedd £22,360 mewn 48 Awr
Ar ôl sefydlu tudalen 'Just Giving' Swyddogol y Bwrdd Iechyd 48 awr yn ôl, rydym eisoes wedi ein gorlethu gan ei chyfanswm. Yn ogystal â rhoddion caredig a dderbyniwyd gan bobl Gwent, rydym wrth ein boddau ein bod wedi derbyn rhodd o £10,000 gan y pêl-droediwr a anwyd yng Nghaerffili, Aaron Ramsey.