Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â Ni i Gofio'r Rhai a Gollwyd yn Ystod Covid 19

Hoffem ddweud 'diolch yn fawr' i'r cyhoedd yng Ngwent am ddangos eu gwerthfawrogiad o'r GIG a staff gofal iechyd eraill bob nos Iau.

Heno, bydd y Bwrdd Iechyd yn troi tri o'n hysbytai yn las i gofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau oherwydd Covid-19. Rhwng 9:00 a 9:30pm bydd adeiladau Ysbyty Brenhinol Gwent, Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr yn cael eu goleuo â goleuadau glas, ac yna effaith enfys i ddiolch i staff a gweithwyr allweddol. Bydd lluniau byw yn cael eu dangos ar gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol y Bwrdd Iechyd o 9:15 pm.

Ni fydd Heddlu Gwent a phartneriaid eraill yn y Sector Cyhoeddus yn bresennol yn ein safleoedd ysbytai am 8:00pm  gan y byddant yn dangos eu cydnabyddiaeth o’u hadeiladau eu hunain, felly edrychwch ar-lein i weld gwerthfawrogiad gan ein partneriaid. Byddwn hefyd yn rhannu'r rhain trwy gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol y Bwrdd Iechyd. Hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf, gan ymweld â'n safleoedd ysbytai i gydnabod ein staff.

Cofiwch ddilyn canllawiau'r Llywodraeth pan fyddwch chi'n cymryd rhan yn y 'Clapio i Ofalwyr' - cynnal pellter cymdeithasol a chlapio o'ch stepen drws. Rydyn ni'n cynghori'n gryf yn erbyn unrhyw un sy'n teithio i'n safleoedd ysbyty ar nos Iau, oni bai eich bod chi'n mynychu am reswm meddygol.

Diolch i chi am eich dealltwriaeth ac am chwarae eich rhan i atal lledaeniad Coronafeirws - diolch am aros adref, amddiffyn ein GIG, ac achub bywydau!