Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

 

30/09/20
Prosiect Llwybr COPD wedi'i enwebu am wobr
Dydd Mercher 30ain Medi 2020

Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyhoeddi bod eu prosiect Llwybr COPD wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Nursing Times 2020.

30/09/20
Rhaglen Adsefydlu Covid

Yr wythnos hon, ymunodd ITV Cymru â'r cleifion yn y rhaglen adsefydlu ôl-Covid i siarad â nhw am effeithiau tymor hir Covid.

25/09/20
Canolfan Profi Coronafeirws 'Galw Heibio' Casnewydd
Dydd Gwener 25ain Medi

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor Canolfan Profi Coronafeirws 'Galw Heibio' yn Rodney Parade, Giât Coffa ar Ddydd Llun 28 Medi 2020.

30/09/20
Uned Profi Coronafeirws 'Galw Heibio' dros dro yn agor ym Mhont-y-pŵl

Dydd Mercher 30 Medi 2020

Mae uned profi symudol dros dro ym Maes Parcio Old Mill, Trosnant, Pont-y-pŵl, NP4 8AT, wedi agor ar Ddydd Mercher 30 Medi.

Mae'r uned symudol newydd hon wedi'i hagor mewn ymateb i gyfradd gynyddol o achosion Coronafeirws, a bydd yn darparu gwasanaeth profi 'Galw Heibio' i drigolion Torfaen, trwy apwyntiad yn unig.

23/09/20
Gwybodaeth bwysig i gleifion sy'n teithio i apwyntiadau Ysbyty

Yn sgil y cyfyngiadau clo lleol ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili, mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud gwiriadau ar y ffyrdd i helpu i orfodi mesurau’r cyfnod clo.

23/09/20
Uned Profi Symudol Dros Dro yn Agor ym Mlaenau Gwent

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned brofi symudol yng nghyn-safle Ysgol Gyfun Nantyglo, o 12.30pm ar Ddydd Iau 24 Medi.

23/09/20
Clinigau Ffliw Penwythnos - Blaenau Gwent

Bydd nifer o glinigau ffliw penwythnos yn rhedeg ar draws Blaenau Gwent y penwythnos hwn.

22/09/20
Sesiwn Holi ac Ateb Fyw ar Ysbyty Athrofaol y Faenor

Ymunwch â ni ar ein Tudalen Facebook ar Ddydd Gwener 25 Medi am 11am ar gyfer sesiwn holi ac ateb arall, lle bydd Dr Chris Chick ac Uwch Nyrs, Mandy Hale, yn cynnig golwg unigryw y tu mewn i'r Ysbyty newydd, trafod popeth ynghylch 'Y Faenor' ac ateb eich cwestiynau yn FYW!

22/09/20
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael brechlyn ffliw am ddim

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog yr holl bobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechlyn ffliw am ddim wrth i GIG Cymru ddechrau ei raglen genedlaethol fwyaf erioed i frechu rhag y ffliw.

18/09/20
Estyniad i'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili

Mae'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili wedi'i hymestyn ymhellach a bydd ar agor tan Ddydd Llun 21ain Medi am 3pm.

22/09/20
Estyniad Pellach i'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili

Mae'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili wedi'i hymestyn ymhellach a bydd ar agor tan Ddydd Llun 28 Medi am 3pm.

17/09/20
Canolfan Iechyd Caldicot Yn Derbyn Arian ar gyfer Murlun Enfys o Gartrefi Bellway

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ddiolchgar iawn i Bellway Homes am roi £300 tuag at furlun enfys yn ardal aros y plant yng Nghanolfan Iechyd Caldicot.

18/09/20
Cyfarfod y Bwrdd Cyhoeddus i ddigwydd ar Ddydd Mercher 23 Medi

Fe'ch gwahoddir i wylio ein Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus nesaf, am 9:30am ar Ddydd Mercher 23 Medi 2020 YN FYW ar ein Sianel Youtube.

Gallwch weld yr agenda a'r papurau ar ein hadran Dogfennau Allweddol.

16/09/20
Canolfan Profi Coronafeirws Dros Dro Newydd i Agor yn Nhredegar Newydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi agoriad Canolfan Brofi newydd yn Nhredegar Newydd ym Mwrdeistref Caerffili.

Bydd yr uned symudol newydd hon yn darparu gwasanaeth profi i drigolion yng Ngogledd Bwrdeistref Caerffili. Mae wedi ei leoli yn y maes parcio, Parc Busnes Tredegar Newydd, White Rose Way, NP24 6BH a rhaid i chi drefnu apwyntiad i ddod i gael prawf.

15/09/20
Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor i Ddod yn Gyntaf yng Nghymru i Ddefnyddio Buddsoddiad Technoleg £13 Miliwn Newydd GIG Cymru

Bydd Ysbytai yng Nghymru yn elwa ar system fonitro ddigidol uwch-dechnoleg newydd ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael mewn Unedau Gofal Dwys.

Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Llanfrechfa fydd y cyntaf i fabwysiadu'r system newydd yn Haf 2021. Yna, bydd y broses gyflwyno fesul cam yn dilyn i holl unedau gofal dwys GIG Cymru.

13/09/20
Anogwyd trigolion Casnewydd i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws wrth i achosion godi

Mae aelodau’r cyhoedd yng Nghasnewydd yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws, ac o’r angen hanfodol i gadw at ganllawiau Ymbellhau Cymdeithasol, gan fod cynnydd mewn achosion yn peri pryder.

11/09/20
Pwysig - Gofyniad am Orchuddion Wyneb ym mhob Safle'r Bwrdd Iechyd
Dydd Gwener 11eg Medi 2020

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion COVID-19 cadarnhaol yn y gymuned, mae ymchwiliadau wedi nodi bod diffyg Ymbellhau Cymdeithasol ym mhob grŵp oedran, mewn ystod o wahanol leoliadau, wedi cyfrannu at ledaeniad y firws.

11/09/20
Polisi 'Dim Ymweld' i'w Ymestyn i Ardal Gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Er mwyn amddiffyn ein cleifion, y cyhoedd a'n staff, mae'r Bwrdd Iechyd wedi barnu ei bod yn hanfodol cymeradwyo polisi 'Dim Ymweld', sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer Bwrdeistref Sir Caerffili oherwydd y cloi lleol.

11/09/20
Y 'Shed Goed' yn Derbyn Cynhwysydd Llongau gan Laing O'Rourke
Dydd Gwener 11eg Medi 2020

Ar Ddydd Iau 10fed o Fedi, rhoddodd Laing O'Rourke, Prif Gontractwyr ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cynhwysydd Llongau i'r 'Shed Goed', a leolir yn Ysbyty Sant Cadog.

Mae'r 'Shed Goed' yn brosiect Therapi Gwaith Coed Iechyd Meddwl ar gyfer cleifion Iechyd Meddwl yn yr Ysbyty.

10/09/20
Sesiwn Holi ac Ateb gyda Dr Sarah Aitken a Dr David Hepburn Ar Gael i'w Gwylio Nawr

Ar Ddydd Iau 10fed Medi 2020, cymerodd Dr Sarah Aitken a Dr David Hepburn ran mewn sesiwn Holi ac Ateb Byw i drafod sut y gallai pobl Gwent i gyd helpu i atal ail don o Covid-19.

Gall unrhyw un a fethodd y sesiwn addysgiadol iawn wylio'r fideo ar dudalen Facebook y Bwrdd Iechyd.