Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd Cymru yn ennill Gwobr GIG Cymru!

Mae Tîm Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd Cymru gyfan wedi ennill gwobr yn y categori "Gwella Iechyd a Lles" yng Ngwobrau GIG Cymru!

Cyflwynwyd y wobr i'r tîm gan Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Dywedodd Samantha Edwards, Ymarferydd Gweithgaredd Anabledd Iechyd a Thechnegydd Ffisiotherapi, "Rydym yn dîm ledled Cymru yn y Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd. Mae Ymarferydd Gweithgaredd Anabledd Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd sy'n ymdrechu i sicrhau bod pob oedolyn a phlentyn ag anableddau a namau yn cael cymorth i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Fel Ymarferydd Gweithgaredd Anabledd Iechyd, fy rôl i yw siarad ag aelodau staff am y Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd a sut y gallant gyfeirio plant ac oedolion, o 2+ oed heb derfyn uchaf, i'r llwybr gyda'r bwriad o'u wneud yn fwy egnïol yn gorfforol."

Roedd y tîm yn falch iawn o ennill y wobr hon!