Neidio i'r prif gynnwy

Uned Profi Symudol Dros Dro yn Agor ym Mlaenau Gwent

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned brofi symudol yng nghyn-safle Ysgol Gyfun Nantyglo, o 12.30pm ar Ddydd Iau 24 Medi.

Mae’r uned symudol newydd hon wedi’i hagor i ymateb i gyfradd uwch o achosion o’r coronafeirws, a bydd yn rhoi gwasanaeth profi galw heibio a gyrru drwodd i breswylwyr Blaenau Gwent, drwy apwyntiad yn unig.

Os oes gennych symptomau Coronafeirws- peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/ neu arogl- neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am a 6pm i archebu prawf.

Bydd yr uned profi symudol wedi'i lleoli ar hen safle Ysgol Gyfun Nantyglo, Pond Road, Nantyglo NP23 4WX. Bydd yn weithredol o 12.30pm ar Ddydd Iau 24ain o Fedi tan 4.30pm ar Ddydd Mercher 30ain o Fedi.

Os ydych chi'n ansicr ynghylch eich symptomau, defnyddiwch wiriwr symptomau ar-lein GIG Cymru, neu ffoniwch 111 i gael help a chyngor.

 

Ar gyfer pobl sy'n byw y tu allan i ardal Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein yn www.llyw.cymru neu ffoniwch 119.

 

Cyfleuster Profi Symudol Dros Dro Nantyglo

Cyn safle Ysgol Gyfun Nantyglo, Pond Road, Nantyglo NP23 4WX

Dydd Iau 24ain o Fedi 2020, 12:30-4:30

Dydd Gwener 25ain - Dydd Mercher 30ain o Fedi 2020, 9:30-4:30 bob dydd

  • Apwyntiad yn unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-6pm.
  • Gwneir y prawf swab mewn 5 munud.
  • Dim ond ar gyfer trigolion Caerffili. Dewch ag adnabyddiaeth hunaniaeth a thystiolaeth o gyfeiriad.
  • Gallwch gyrraedd ar droed, mewn car neu feic.
  • Gwisgwch orchudd wyneb ar eich ffordd yn ôl ac ymlaen i'ch prawf.
  • Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Cofiwch arsylwi ar Bellter Cymdeithasol wrth aros am brawf.
  • Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i'ch prawf neu oddi yno.
  • Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunan-ynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniadau eich profion.

 

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae'r uned brofi symudol newydd hon yn caniatáu inni gynyddu capasiti a phrofi mwy o bobl â symptomau Coronafeirws.

Bydd yr uned brofi dros dro hon yn ein helpu i ddysgu mwy am gyfradd yr haint i'n helpu i amddiffyn trigolion Blaenau Gwent.

Byddwn yn annog pobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent, os oes gennych symptomau peswch, colli blas neu arogl neu dwymyn, neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl heb rheswm amlwg i gael prawf. Rwy’n annog unrhyw un sydd â symptomau a’ch cartref cyfan i aros gartref nes i chi gael canlyniadau eich prawf i’ch amddiffyn chi, eich teulu a’ch cymuned.

Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ddiogelu Blaenau Gwent.”