Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyhoeddi agoriad Canolfan Brofi newydd yn Nhredegar Newydd ym Mwrdeistref Caerffili.
Bydd yr uned symudol newydd hon yn darparu gwasanaeth profi i drigolion yng Ngogledd Bwrdeistref Caerffili. Mae wedi ei leoli yn y maes parcio, Parc Busnes Tredegar Newydd, White Rose Way, NP24 6BH a rhaid i chi drefnu apwyntiad i ddod i gael prawf.
Os ydych chi'n byw ym Mwrdeistref Sir Gaerffili a bod gennych symptomau Coronafeirws, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am a 6pm i drefnu prawf.
Mae Canolfan Profi 'Cerdded i Fyny' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili wedi cael ei ymestyn i agor tan Ddydd Iau 17eg o Fedi am 6pm. Nid oes angen archebu lle ar gyfer y ganolfan hon, ond mae angen i chi fod yn byw yn y Fwrdeistref, a bod â symptomau Coronafeirws, os ydych chi am ddod i gael prawf.
Yn ôl y bwriad, bydd y cyfleuster gyrru drwodd dros dro yn Nhŷ Penallta yn cau o 6pm ar Ddydd Mawrth 15fed Medi.
Cyfleuster Profi Symudol Dros Dro Tredegar Newydd
Maes parcio, Parc Busnes Tredegar Newydd, White Rose Way, NP24 6BH.
Dydd Mercher 16 Medi 2020, 2pm - 6pm
Dydd Iau 17 - Dydd Mercher 23 Medi 2020, 8am - 6pm bob dydd
Mae'r cyfleusterau profi hyn wedi'u bwriadu ar gyfer pobl sy'n byw ym Mwrdeistref Caerffili. Mae cyfleusterau profi eraill yng Ngwent- yn Rodney Parade yng Nghasnewydd a Chwm ym Mlaenau Gwent. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein yn www.gov.wales neu ffoniwch 119.
Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ,
“Hoffem ddiolch i’r preswylwyr hynny sydd eisoes wedi dod ymlaen am brawf ar ôl datblygu symptomau Coronafeirws.
“Rydym yn falch o agor y cyfleuster dros dro newydd hwn yn Nhredegar Newydd, a fydd yn darparu gwasanaeth profi i drigolion yng Ngogledd y Fwrdeistref. Archebwch brawf os oes gennych symptomau Coronafeirws- peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/ neu arogl- neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg."