Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ymchwilio i ddau achos arall o'r frech goch sydd wedi'u cadarnhau yn ardal Gwent, sy'n dod â'r cyfanswm cyffredinol i bedwar achos.
Mae'r pedwar achos yn gysylltiedig â'i gilydd trwy bresenoldeb yn yr un lleoliad gofal iechyd ar 21 Mawrth, ac felly mae achos a gadarnhawyd wedi'u datgan.
Fel rhan o’n proses olrhain cysylltu cyffredinol am yr achosi mwyaf diweddar, bydd rhieni neu warcheidwaid plant wnaeth mynychu ein Huned Asesu Argyfwng Plant yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân yn ystod penwythnos y Pasg yn derbyn neges testun i'w hysbysu y gallant fod yn gysylltiadau i’r achos o’r frech goch.
Nid oes angen i rieni nad ydynt yn derbyn neges testun gwneud dim, a does dim angen iddynt boeni.
Am wybodaeth lawn am hyn, ewch i: Dau achos o’r frech goch wedi’u cadarnhau yng Ngwent - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
Rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol o symptomau'r frech goch:
Gall brech flotiog arddangos fel arfer tua 3 neu 4 diwrnod wedyn. Gall y frech cychwyn ar y wyneb neu wddf, wedyn lledaenu dros weddill y corff. Mae’r frech yn edrych yn frown neu goch ar groen golau ond gall arddangos yn galetach ar groen sydd fwy tywyll.
Os ydych yn meddwl gall fod y frech goch gyda’ch plentyn, arhoswch yn eich cartref a galwch eich meddyg teulu am apwyntiad brys neu ffoniwch 111.