Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol Gweithwyr y GIG

Heddiw, mae hi’n Ddiwrnod Gweithwyr Tramor y GIG.

Mae dyled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn fawr i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus sy’n dod o bob cwr o’r byd i weithio yma. Mae gweithlu amlddiwylliannol y Bwrdd Iechyd yn cynnwys bron i 50 o genhedloedd sy’n gweithio ar bob lefel ac mewn amrywiaeth o rolau.

 Nid yn unig mae hyn yn ein galluogi i gynyddu ein gweithlu, ond mae hefyd yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle – ac mae hyn i gyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant cyffredinol unigolion, yn lleihau anghydraddoldebau ac yn esgor ar ganlyniadau gwell i gleifion.

Heb gymorth ein cydweithwyr rhyngwladol, ni fyddai modd inni gynnal ein gwasanaethau. Hoffem wneud yn fawr o’r cyfle hwn i ddiolch i’n cydweithwyr rhyngwladol am eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal o’r radd flaenaf i bobl Gwent.

Cawsom air gyda Selin a Regina, Nyrsys a Addysgwyd yn Rhyngwladol, ynglŷn â’u profiadau fel gweithwyr tramor y GIG. Dyma a ddywedodd y ddwy:

 

Selin Thomas, Prif Nyrs Adsefydlu Gofal Henoed.

“Dewisais weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan ei fod yn trysori egwyddorion hawliau dynol, gan sicrhau atebolrwydd, grymuso, cyfranogi a dim gwahaniaethu. Mae wedi ymrwymo i greu cymuned iachach ac anelu at ragoriaeth ym mhopeth a wna.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau dynol a rhagoriaeth mewn gofal iechyd. Mae’n disgwyl i’r holl staff drin cleifion, teuluoedd, y cyhoedd a chydweithwyr gydag urddas a pharch, gan ymddwyn yn ôl safonau uchel bob amser.

Mae ymrwymiad i’r GIG ac i werthoedd craidd y GIG yn hanfodol i bawb yn y sefydliad. Yn ychwanegol at hyn, mae ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i ofal, tosturi, gwrando, rhagoriaeth a phartneriaethau cydweithredol yn sicrhau ei fod yn rhoi’r gofal gorau posibl i’r gymuned. Mae ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i egwyddorion hawliau dynol yn cyd-fynd â’i nod, sef creu cymuned iachach wrth ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ym mhob agwedd ar ei waith.

Fel nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol, rydym yn wynebu sawl her wrth weithio mewn systemau gofal iechyd newydd. Y tu hwnt i broblemau tra hysbys yn ymwneud â chymwysterau, efallai y bydd Nyrsys a Addysgwyd yn Rhyngwladol angen llawer o gymorth i addasu i amgylcheddau gofal iechyd a chymdeithasol newydd.

Ond rydym yn cofio bod pob llawenydd yn cyfrannu at ein twf fel nyrsys ac yn cyfoethogi ein siwrnai broffesiynol. Rydym yn trysori’r adegau hyn ac maen nhw wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud nyrsio yn yrfa mor werth chweil.”

 

Regina Reyes, Nyrs Arbenigol Ymchwil Glinigol

“Dewisais weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gan fy mod yn credu yng nghenhadaeth a gweledigaeth ein sefydliad. Trwy weithio yn y Bwrdd Iechyd, cefais gyfle i gyfuno fy arbenigedd proffesiynol â’m hangerdd dros wneud gwahaniaeth, trwy Ymchwil Glinigol. Rydw i’n ddiolchgar i’r Bwrdd Iechyd am yr holl gymorth a gefais o ddechrau cyntaf fy ngyrfa nyrsio. Mae gweithio mewn amgylchedd sy’n seicolegol ddiogel, lle caiff cynwysoldeb ei hyrwyddo, yn rhywbeth rydw i’n ddiolchgar amdano yn fy ngweithle.

Pan ddechreuais nyrsio yma yn y DU, roedd treulio amser oddi wrth fy nheulu yn brofiad anodd iawn. Ond, gyda llawer o gymorth gan y gymuned, bu modd imi oresgyn fy hiraeth a’i droi’n gymhelliant cadarnhaol ar gyfer dal ati mewn bywyd.

Rydw i’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith fy mod yn Nyrs a Addysgwyd yn Rhyngwladol. Rydw i’n danbaid dros rannu fy nghalon a’m diwylliant Ffilipino mewn amgylchedd gweithio amrywiol; mae meithrin ymdeimlad cryf o berthyn lle gallaf fod yn driw i mi fy hun, yn ogystal â meithrin cymhwysedd diwylliannol yn y byd cydgysylltiedig sydd ohoni, yn llenwi fy nghalon â llawenydd.”