Heddiw (Dydd Mercher 20 Mawrth 2024), fe wnaethom gynnal digwyddiad Y Sgwrs Fawr ynghylch Profedigaeth yng Nghanolfan Christchurch yng Nghasnewydd, lle daeth cleifion, gofalwyr, staff, partneriaid a’n cymunedau ehangach at ei gilydd i drafod sut y gallwn wella gwasanaethau profedigaeth yng Ngwent.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gael trafodaethau agored gyda’n gilydd a’n cymunedau lleol ynghylch marwolaeth a phrofedigaeth, fel y gallwn ddysgu am yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r gofal diwedd oes a phrofedigaeth a ddarparwn.
Dechreuodd y diwrnod gyda sylwadau agoriadol gan ein Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol, Jenny Winslade, a amlygodd sut mae ei chefndir mewn ymweliadau iechyd yn golygu ei bod yn angerddol ynghylch ‘gwneud pethau’n iawn’ i’n cymunedau yn y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd, a’r 1000 olaf o fywyd. Yna bu Jenny yn trafod ein huchelgais i gydweithio i wella gofal diwedd oes ac i wrando ar anwyliaid cleifion i ddysgu sut y gallwn wneud gwahaniaeth iddynt.
Yna rhoddodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Nicola Prygodzicz, araith agoriadol, lle nododd ein cyfrifoldeb Iechyd y Boblogaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cwmpasu’r holl boblogaeth diwedd oes, gan wneud yn siŵr bod gan bawb yn yr ardal fynediad cyfartal at ofal-diwedd-oes ansawdd uchel. Cydnabu Nicola na allwn gywiro camgymeriadau ond gallwn ddysgu oddi wrthynt i sicrhau nad ydynt yn digwydd eto.
Clywodd y digwyddiad wedyn gan nifer o siaradwyr arbenigol am wahanol agweddau ar ofal diwedd oes a phrofedigaeth:
Trafododd Non Ellis, Arbenigwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y cymorth profedigaeth sydd ei angen ar bobl â nam ar y synhwyrau a rhannodd rai astudiaethau achos effeithiol gan y rhai â nam ar y synhwyrau sydd wedi profi profedigaeth.
Darparodd Caplan y Bwrdd Iechyd, Alan Tyler, a Farid Khan, Imam, gyflwyniad ar grefydd, ysbrydolrwydd ac agwedd fugeiliol gofal diwedd oes a chymorth ar ôl colled, gan sôn am bwysigrwydd ystyried y gofynion penodol y mae rhai crefyddau eu hangen ar ôl colled, yn ogystal â sut y gall crefydd a ffydd chwarae rhan wrth gefnogi pobl ar adeg o alar a phrofedigaeth.
Trafododd Dr Jason Shannon, Archwiliwr Meddygol Arweiniol Cymru, effaith y diwygiadau ardystio marwolaeth newydd.
Siaradodd Tanya Strange, Pennaeth Nyrsio, Profiad Cleifion a Chyfranogiad, a Louise Jones, Nyrs Arweiniol Profedigaeth, am weledigaeth ac uchelgeisiau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer gwell gwasanaethau profedigaeth lleol.
Drwy gydol y prynhawn, cynhaliwyd sgyrsiau o gwmpas y bwrdd i drafod paratoi ar gyfer colled, a chymorth profedigaeth wedi’i deilwra. Roedd rhai pynciau trafod yn cynnwys:
I gloi’r prynhawn, cyflwynwyd adborth o’r holl grwpiau trafod i sicrhau bod pob barn yn cael ei bwydo i’r Sgwrs Fawr, cyn sylwadau cloi gan John Moss, Rheolwr Rhaglen Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol ar gyfer Gweithrediaeth GIG Cymru. Cafodd y mynychwyr hefyd galon bapur i ysgrifennu neges at anwylyd coll a'i hongian ar un o Goed Gobaith, a fydd hefyd yn bwydo i mewn i fodel profedigaeth newydd y Bwrdd Iechyd.
Diolch i’n holl staff, partneriaid, cleifion a chymunedau a fynychodd y digwyddiad hynod bwysig hwn heddiw, ac am eu cyfraniad gwerthfawr i’r Sgwrs Fawr.