Neidio i'r prif gynnwy

Uned Profi Coronafeirws 'Galw Heibio' dros dro yn agor ym Mhont-y-pŵl

Dydd Mercher 30 Medi 2020

Mae uned profi symudol dros dro ym Maes Parcio Old Mill, Trosnant, Pont-y-pŵl, NP4 8AT, wedi agor ar Ddydd Mercher 30 Medi.

Mae'r uned symudol newydd hon wedi'i hagor mewn ymateb i gyfradd gynyddol o achosion Coronafeirws, a bydd yn darparu gwasanaeth profi 'Galw Heibio' i drigolion Torfaen, trwy apwyntiad yn unig.

Os oes gennych symptomau Coronafeirws- peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl - neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm amlwg, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am a 6pm i archebu prawf.

Bydd yr uned profi symudol wedi'i lleoli ym Maes Parcio Old Mill gyferbyn â Chanolfan Byw'n Egnïol Pont-y-pŵl.

Bydd ar agor o 9.30am Dydd Mercher 30ain o Fedi tan 5.30pm Ddydd Mercher 7fed o Hydref.

Os ydych chi'n byw yn rhy bell i ffwrdd i deithio ar droed i Bont-y-pŵl, gallwch archebu i gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref neu fynd i yrru drwodd yng Nghwm yng Nglyn Ebwy neu yn Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Ni ddylech fynychu'r cyfleuster 'Galw Heibio' hwn os ydych chi'n bwriadu gyrru i'ch prawf.

Mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent a De Cymru. Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch 119.

Cyfleuster Profi Pont-y-pŵl
Maes Parcio Old Mill, Trosnant Street, Pont-y-pŵl, NP4 8AT


Dydd Mercher 30 Medi 2020 - Dydd Mercher 7 Hydref 2020,
9.30am - 5.30pm bob dydd

Apwyntiad yn unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-6pm.

• Gwneir y prawf mewn 5 munud.

• Dim ond ar gyfer preswylwyr Torfaen. Dewch â ID a phrawf o gyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar eich ffordd yn ôl ac ymlaen i'ch prawf.

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i'ch prawf neu oddi yno.

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunan-ynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniadau eich profion.

 

Ewch i'n tudalen Canolfannau Brawf i gael mwy o wybodaeth am y Canolfannau Profi yn Gwent.