Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer parasetamol chwyldroadol ac arobryn gydag arbediad sy'n cyfateb i 700kg o CO2

Dydd Iau 28 Mawrth 2024

Mae parasetamol yn un o'r cyffuriau a ragnodir yn fwyaf aml ar gyfer cleifion mewnol yn yr ysbyty ond mae hyn wedi cael ei nodi'n faes ar gyfer arbedion amgylcheddol. Yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn unig, gallai proses newydd arwain at arbediad o £13,000, lleihad mewn gwastraff plastig o 400kg ac arbediad  sy'n cyfateb i 700kg o garbon bob blwyddyn. 

Dywedodd Ben Prince, Cymrawd Clinigol Cynaliadwyedd Anestheteg: "Rydym ni'n ceisio lleihau'r defnydd o barasetamol mewnwythiennol (IV) lle gellir cynnig parasetamol trwy'r geg. Deellir yn eang bod rhoi parasetamol i gleifion trwy'r geg yn gwella diogelwch cleifion ac mae buddion hefyd o ran costau a'r amgylchedd."

Wrth weithio yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, gwnaeth Ben Prince a'i gydweithwyr sylwi bod llawer o gleifion yn derbyn parasetamol mewnwythiennol er y byddai cynnig tabledi parasetamol i'w cymryd trwy'r geg yr un mor effeithiol.

Ar wardiau i gleifion mewnol, byddai pecynnau'r llinell fewnwythiennol a'r botel wag gysylltiedig yn cael eu taflu i'r gwastraff clinigol ar ôl rhoi pob dos o feddyginiaeth. Mae hyn yn arwain at fwy o wastraff plastig; o gymharu â pharasetamol i'w gymryd trwy'r geg sy'n defnyddio pecyn pothellog i gynnwys dosiau lluosog o feddyginiaeth.

Mae llawer o astudiaethau wedi dangos bod parasetamol yr un mor effeithiol o'i roi trwy'r geg o gymharu â'r dull mewnwythiennol.

Ar y cyd â thîm Fferylliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gwnaeth Ben a'r tîm gyflwyno ymyriad ar yr unedau dosbarthu fferyllol awtomatig, sef yr Omnicell.

Byddai'r ymyriad hwn yn annog staff nyrsio i ystyried p'un a ellid rhoi parasetamol yn hytrach na thrwy ddulliau mewnwythiennol o'i ddewis ar y peiriant.

Mae'r ymyriad hwn yn caniatáu i staff nyrsio barhau i fod yn annibynnol o ran penderfynu beth sydd orau i'w cleifion. Mae nyrsys wedi'u grymuso fwyfwy gan bum rheol, yr amser cywir, y claf cywir, y feddyginiaeth gywir, y dos cywir, y llwybr cywir.

Roedd y newid o ganlyniad yn galonogol iawn, gyda lleihad o 21% yn y defnydd o barasetamol mewnwythiennol ac ers hynny, dim ond 24% o barasetamol mewnwythiennol a gafodd ei roi heb angen clir amdano. Mae hyn bellach wedi'i ehangu i wardiau cleifion yn Ysbyty Athrofaol y Faenor a'r Bwrdd Iechyd cyfan.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd gwobr Amgylcheddol Barema a Chymdeithas yr Anesthetyddion 2023 i Ben am y fenter hon.

Parhaodd Ben: "Rydym ni wedi bod yn hapus iawn gyda'r canlyniadau positif yr ydym ni wedi'u cael, beth yr ydym ni'n gobeithio ei gael yn y dyfodol yw ychwanegu mwy o feddyginiaethau a'i ledaenu ar draws Cymru."