Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Cyhoeddus - Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 

Hysbysiad yn unol ag Adran 24(3) y Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Yr Ombwdsmon) wedi ymchwilio i gŵyn a chanfod camweinyddiaeth/methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae wedi anfon adroddiad am ganlyniadau ei ymchwiliad at Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Roedd y gŵyn yn ymwneud â methiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnig cyffur a allai helpu i wella cerdded i rai cleifion â sglerosis ymledol, i gleifion cymwys yn ei ardal.

Mae copi o'r adroddiad ar gael yma.

Bydd hefyd ar gael i’r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Adeilad Pencadlys, Ysbyty St Cadog, Ffordd y Lodj, Caerllion, am gyfnod o 3 wythnos o Ddydd Iau 15fed o Chwefror 2024 a chaiff unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny gymryd copi o’r adroddiad hwn neu nodi dyfyniadau ohono.

Dyddiad: 15fed o Chwefror 2024

Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan