Neidio i'r prif gynnwy

Estyniad Pellach i'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili

Mae'r Ganolfan Brofi 'Galw Heibio' yng Nghanolfan Hamdden Caerffili wedi'i hymestyn ymhellach a bydd ar agor tan Ddydd Llun 28 Medi am 3pm.

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yn profi symptomau Coronafeirws- peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel neu wedi colli'ch blas a/neu arogli- neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm penodol- ewch am brawf.

Nid oes angen ichi drefnu apwyntiad ar gyfer y ganolfan hon, ond mae angen ichi fod yn breswylydd ym mwrdeistref Caerffili, bydd gwiriadau ID yn cael eu gwneud.

Sylwch fod yr amseroedd agor wedi newid i 10am-3pm bob dydd


• Mae'r profion hunan-swabio'n cael eu gwneud mewn 5 munud
• Ar gyfer trigolion Caerffili'n unig. Dewch ag ID a phrawf o’ch cyfeiriad cartref
• Gallwch gyrraedd ar droed, mewn car neu ar feic
• Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac ar eich ffordd adref
• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
• Cofiwch barchu ymbellhau cymdeithasol wrth ddisgwyl am brawf
• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau na mannau eraill ar y ffordd i'r prawf nac ar eich ffordd adref
• Cofiwch, os ydych yn profi symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a phawb yn eich cartref hunan-ynysu gartref hyd nes ichi dderbyn canlyniadau eich profion.

Bwriedir y cyfleusterau profi hyn ar gyfer pobl sy'n byw ym Mwrdeistref Caerffili. Mae cyfleusterau profi eraill yng Ngwent- yn Rodney Parade yng Nghasnewydd a Chwm ym Mlaenau Gwent.

Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref. Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch 119.