Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Pwysig ar Weithredu Streic Ddiwydiannol - Dydd Llun 25ain - Dydd Gwener 29ain Mawrth 2024

Byddwch yn ymwybodol y bydd meddygon iau ar draws GIG Cymru yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol o 7yb ar Ddydd Llun 25 Mawrth tan 7yb ar Ddydd Gwener 29 Mawrth 2024.

Yng Ngwent ac ar draws Cymru, mae'n debygol y bydd y cyfnod hwn o weithredu diwydiannol yn effeithio'n fwy difrifol ar weithrediadau'r Bwrdd Iechyd nag o'r blaen oherwydd ei fod yn cwmpasu gwyliau ysgol y Pasg a diffyg argaeledd llawer o ymgynghorwyr, uwch feddygon a staff clinigol eraill i ddarparu cyflenwad. Bydd y streic yn sicr yn effeithio ar wasanaethau, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar ein cleifion.

Os ydych chi'n glaf sydd ag apwyntiad neu weithdrefn wedi'i drefnu ymlaen llaw yn un o'n hysbytai yn ystod cyfnod y streic, cysylltir â chi'n uniongyrchol gan ein tîm archebu pe bai eich apwyntiad yn cael ei effeithio. Os na chysylltir â chi, ewch i unrhyw apwyntiadau sydd wedi'u trefnu fel arfer.

Bydd y rhai sy'n mynd i'n Hadran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn wynebu arosiadau hir - gofynnir i chi fynychu'r Adran Achosion Brys dim ond os ydych chi'n ddifrifol wael neu wedi'ch anafu, neu os oes risg i fywyd.

Mae cyngor gofal brys ar gael drwy Ganllaw Iechyd Gwent neu drwy ffonio 111.

Hoffem ddiolch i’n cleifion a’n cymunedau am eu hamynedd a’u cefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.