Rydym wedi cael gwybod bod llawer o'n cleifion yn amheus am neges destun a dderbyniwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gofynnodd y neges iddynt glicio ar ddolen i gymryd rhan mewn arolwg profiad claf.
Hoffwn eich sicrhau na ddylid trin y testun fel un amheus a'i fod yn wirioneddol o’r Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae nam ar y ffurflen yr ydym yn gobeithio ei datrys cyn gynted â phosibl.