Elusen atal hunanladdiad yw Samaritans Cymru sy’n rhoi cymorth emosiynol i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Yn 2024, rydym yn lansio prosiect newydd i godi ymwybyddiaeth am yr effaith gall dod yn rhiant ei chael ar eich iechyd meddwl. Hoffem wella’r cymorth sydd ar gael i ddynion a menywod ledled Cymru. Yn ogystal, hoffem fynd i’r afael â’r stigma ynghylch iechyd meddwl a dod yn rhiant.
Nod y prosiect yw gwella’r cymorth sydd ar gael i unrhyw un sy’n dod yn rhiant ac mae’n cynnwys y cyfnod amenedigol, anffrwythlondeb, colli baban, mabwysiadu, cenhedlu trwy roddwr, a’r cyfnod ôl-enedigol.
I gyflawni hyn, hoffem ddysgu mwy am brofiadau pobl o ddod yn rhiant, yr effaith a gafodd ar eu hiechyd meddwl a pha gymorth – os o gwbl – a gawsant yn ystod y cyfnod hwn.
Byddem wrth ein boddau i glywed oddi wrth unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
Cewch eich holi am ddod neu geisio dod yn rhiant, eich iechyd meddwl, a’r cymorth a gawsoch. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud i’w orffen a’r dyddiad cau yw Dydd Lynn 4 Mawrth 2024.
I gael copi caled o’r arolwg hwn, anfonwch e-bost at e.gooding@samaritans.org
Caiff yr atebion eu cadw’n gyfrinachol ac yn ddienw. Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio i ddatblygu adroddiad polisi y bydd Samaritans Cymru yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar newid yng Nghymru ac i lunio adnodd di-dâl i gefnogi unrhyw un sy’n dod yn rhiant yng Nghymru.
Bydd eich ymateb yn ein helpu ni i alw am well gymorth i unrhyw un sy’n dod yn rhiant yng Nghymru. Bydd eich amser a’ch cymorth yn helpu eraill ac yn ein helpu ni i ddeall yr hyn sydd angen ei newid yng Nghymru.
Diolch am eich amser.
Os oes angen arnoch siarad â rhywun am eich teimladau, gallwch ffonio gwasanaeth gwrando’r Samariaid unrhyw amser, dydd neu nos, ar 116 123 neu e-bostio jo@samaritans.org .
I gael cymorth emosiynol yn Gymraeg, cysylltwch â Llinell Gymorth Gymraeg y Samariaid drwy ffonio 0808 164 0123 (7pm -11pm bob dydd).
Dylech nodi bod yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Listen & Learn Associates Ltd ar ran Samaritans Cymru. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a rannwch yn cael ei defnyddio’n unol â’r gyfraith diogelu data perthnasol a Pholisi Preifatrwydd Samaritans, sydd ar gael yn https://www.samaritans.org/privacy-statement/.
Gallwch roi gwybod inni os nad ydych yn dymuno cael gwybodaeth am Samariaid Cymru mwyach ar unrhyw adeg trwy anfon neges e-bost at wales@samaritans.org
Mae Samariaid Cymru’n cynnwys canghennau ar draws Cymru, mae rhai ohonynt wedi’u cofrestru fel elusennau annibynnol. Dim ond at ddibenion y Samariaid a’u canghennau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. I gael mwy o wybodaeth am y ffordd mae’r Samariaid yn trin ac yn gwarchod eich gwybodaeth bersonol, darllenwch ein datganiad preifatrwydd ar www.samaritans.org/privacy-statement.