Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Pwysig ar Weithredu Streic Ddiwydiannol - 21ain, 22ain a 23ain Chwefror

Mae meddygon iau ar draws GIG Cymru yn gweithredu’n ddiwydiannol rhwng 7yb ar Ddydd Mercher 21 Chwefror 2024 a 7yb ar Ddydd Sadwrn 24 Chwefror 2024. 

Bydd ein tîm archebu yn cysylltu’n uniongyrchol â chleifion sydd ag apwyntiad neu weithdrefn wedi’i drefnu ymlaen llaw yn un o’n hysbytai yn ystod cyfnod y streic os bydd hyn yn effeithio ar eu hapwyntiad. Cynghorir cleifion na chysylltir â nhw i fynychu unrhyw apwyntiadau a drefnwyd fel arfer.

Disgwylir i'n gwasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd fod dan bwysau sylweddol yr wythnos hon. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau tarfu’r gweithredu diwydiannol ar ein cleifion ac mae gennym gynlluniau ar waith i lenwi sifftiau meddygon iau, ond mae'n anochel y bydd anawsterau staffio yn effeithio ar ein gwasanaethau.

Mae angen i ni ofyn am gefnogaeth ein cymunedau lleol i ddim ond fynychu Ysbyty Athrofaol y Faenor os yw'n peryglu bywyd, neu os oes ganddynt anaf difrifol iawn. Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cymorth meddygol i feddwl yn ofalus am y gwasanaethau maen nhw'n eu dewis, ac i gyfeirio at Ganllaw Iechyd Gwent neu ffonio 111 os nad ydyn nhw'n siŵr ble i fynd am help. 

Hoffem ddiolch i'n cleifion a'n cymunedau am eu hamynedd a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.