Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwch Aelod Staff am Wobr Cydnabod Dewis y Claf

Ydych chi’n adnabod aelod o staff sydd wedi gwneud wahaniaeth cadarnhaol i’ch gofal iechyd chi neu berthynas?

Ydych chi’n adnabod unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud yr ymdrech ychwanegol i ddarparu gwasanaeth eithriadol i chi?

Ydych chi’n adnabod unigolyn neu dîm sydd wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd i ddangos tosturi rhagorol a darparu gofal a diogelwch o ansawdd ardderchog?

Dyma'ch cyfle i'w henwebu yng Ngwobrau Cydnabod Staff eleni! Mae’r wobr Dewis y Claf yn cynnig cyfle i gleifion a’r cyhoedd ddweud eu dweud ac i gydnabod staff GIG Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

Gweler y ddolen ganlynol i gyflwyno'ch enwebiad: Enwebiad Gwobr Dewis Cleifion 2023/2024 (office.com)

 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw CANOL DYDD ar Ddydd Gwener 29ain o Fawrth 2024.