Fel modd o sicrhau gwell hygyrchedd a gwasanaethau gofal iechyd arbenigol o fewn Practisau Meddygon Teulu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn hyrwyddo'r gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau sydd ar gael i gleifion. Yn aml mae’r rhain mewn gwell sefyllfa i fynd i’r afael â phryderon penodol.
Mae’r Meddyg Teulu Brian Harries wedi ffilmio cyflwyniad fideo defnyddiol sy’n amlygu’r manteision o gael tîm amrywiol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio o fewn Practis Meddyg Teulu. Nod y fideo yw addysgu cleifion am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael y tu hwnt i ymgynghoriadau meddygon teulu traddodiadol.
Rydym hefyd wedi cyflwyno cyfres o broffiliau fideo sy'n rhoi gwybodaeth am wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau. Mae’r proffiliau hyn yn cynnig cipolwg ar arbenigedd a rolau gweithwyr proffesiynol amrywiol heb fod angen gweld y meddyg teulu, gan gynnwys:
Fel Bwrdd Iechyd rydym yn annog ac yn grymuso cleifion i wneud dewisiadau gwybodus am eu taith gofal iechyd. Rydym yn annog cleifion i archwilio’r opsiynau gofal iechyd amgen sydd ar gael iddynt a deall efallai nad gweld meddyg teulu yw’r unig opsiwn neu’r opsiwn gorau bob amser. Ein nod yw sicrhau bod cleifion yn cael y gofal mwyaf priodol ac effeithiol ar gyfer eu hanghenion.
I weld y fideo gan y meddyg teulu Brian Harries, yn ogystal â’r proffiliau fideo, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: https://bipab.gig.cymru/ysbytai/meddygon-teulu-deintyddion-ac-ati/meddygon-teulu/