Neidio i'r prif gynnwy

"Mae'n rhaid i ni ei gael yn iawn i'n babanod, plant a phobl ifanc ledled Gwent" meddai Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd

Mae adroddiad Iechyd y Cyhoedd newydd wedi nodi'r effaith y mae pandemig Covid-19 wedi'i chael ar blant a phobl ifanc ledled Gwent - ac mae wedi cynnig mewnwelediadau ar y gwelliannau y gallwn eu gwneud i helpu babanod, plant a phobl ifanc i dyfu.

Bu'r Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn dathlu ei blwyddyn gyntaf yn ei rôl yng Ngwent drwy ryddhau ei hadroddiad, Ein Dyfodol, Ein Llais: Babanod, Plant a Phobl Ifanc Gwent.

Dywedodd yr Athro Daszkiewicz:

"Fel fy Adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd cyntaf, roeddwn i eisiau gwneud i ffwrdd â ffurfioldeb. Am y rheswm hwnnw, crëwyd yr adroddiad drwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Gwent am yr hyn y mae iechyd yn ei olygu iddyn nhw, eu profiadau o'r pandemig a deall yr hyn sydd ei angen arnynt gennym ni fel rhieni, y sector cyhoeddus a Gwent gyfan i'w helpu i dyfu a ffynnu."

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ar 29 Mawrth 2024, yn defnyddio data allweddol o'r Cydasesiad Strategol Gwent a lansiwyd yn ddiweddar, yn ogystal ag amryw ffynonellau eraill, i gyflwyno ystadegau llwm ynghylch y 132,779 o blant a phobl ifanc (0-18 oed) sy'n byw yng Ngwent.

Gan ddechrau gyda mewnwelediad i'r darlun presennol o iechyd babanod, plant a phobl ifanc yng Ngwent, mae'r adroddiad yn datgelu bod 12.9% o blant 5 oed yng Ngwent yn byw gyda gordewdra, tra bod 18.6% o bobl ifanc wedi profi bwlio seibr; mae 1 o bob 5 wedi ceisio defnyddio e-sigarét; mae 30.4% yn derbyn gofal neu gymorth oherwydd cam-drin domestig; a chafodd 86 eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd ar ffyrdd yng Ngwent yn 2022.

Mae nodweddion eraill yr adroddiad yn cynnwys: cipolwg ar sut roedd plant Gwent yn teimlo yn ystod pandemig Covid-19; parc saffari drwy'r pandemig a freuddwydiwyd gan blant ledled Gwent; a Chardiau Post o'r Pandemig- sut roedd ein pobl ifanc yn teimlo.

Yna daw'r adroddiad i ben gyda llythyr agored i Went gyda rhestr o argymhellion gan ein plant a'n pobl ifanc o'r hyn sydd ei angen arnynt gennym i fyw a thyfu'n dda yng Ngwent.

Dywedodd yr Athro Daszkiewicz:

"Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n iawn i'n babanod, ein plant a'n pobl ifanc, a dyma le rwy'n bwriadu dechrau wrth i ni geisio helpu pobl ledled Gwent i fyw'n dda. Gyda'r adroddiad hwn rydym yn ehangu lleisiau babanod, plant a phobl ifanc. Roeddwn i eisiau deall yr etifeddiaeth mae'r pandemig wedi'i gadael a'r effaith ar ein plant. Mae ein hadroddiad yn rhannu rhai profiadau personol gan blant ac yn ysbrydoli meddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i wneud Gwent yn fan lle gall ein babanod, ein plant a'n pobl ifanc ffynnu.

"P'un a ydych yn rhiant, gofalwr neu hyd yn oed yn gweithio yn y sector cyhoeddus, byddwn yn eich annog i ddarllen yr adroddiad hynod ddiddorol hwn, a ddaeth yn fyw gan blant a phobl ifanc Gwent."

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.