Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyhoeddi bod eu prosiect Llwybr COPD wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Nursing Times 2020.
Mae'r prosiect yn ddull gwasanaeth integredig gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Adrannau Brys i helpu i leihau derbyniadau a gwella gofal cleifion. BIPAB fyddai'r Peilot ar gyfer llwybr WAST arloesol, a fyddai'n addasu'n genedlaethol pe bai'n llwyddiannus.
Nod y prosiect yw darparu gofal gartref, lleihau derbyniadau i'r ysbyty ac atal derbyn os yw wedi'i nodi'n glinigol. Cefnogodd Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol y peilot, mewn dull unedig ar draws Gwasanaethau Iechyd, gofal cymdeithasol a brys.
Lansiwyd y prosiect integredig a'r llwybrau hyn ym mis Ionawr 2020.
Cefnogodd y peilot ymateb COVID wrth i lwybrau a ddyfeisiwyd gefnogi datblygiad Llwybr COVID Cenedlaethol Cymru, gydag alinio timau integredig ag un pwynt mynediad a'r rôl allan o raglen hyfforddiant anadlol. Roedd y Timau Nyrsys Anadlol wedi'u hintegreiddio'n llawn o fewn CRT i gynnig cyngor, cefnogaeth a rheolaeth gan gynnwys archebu ocsigen os yw hynny'n cael ei nodi'n glinigol. Mae rhaglen addysgol resbiradol/ Covid wedi'i darparu i'r holl weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol o bob rhan o BIPAB i gefnogi ffyrdd newydd o weithio.
Mae llwybr WAST wedi parhau a bwriedir ei gyflwyno'n genedlaethol, a bydd yr adolygiad o gleifion COPD sy'n gaeth i'w cartrefi yn parhau cyn y gaeaf. Mae'r adborth gan gleifion a staff ar gyfer pob llwybr wedi bod yn hollol bositif a chalonogol.
Ar hyn o bryd, mae rhaglen addysgol resbiradol/ Covid yn cael ei darparu i bob Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol o bob rhan o BIPAB i gefnogi ffyrdd newydd o weithio. Os hoffech chi fynychu sesiwn hyfforddi, yna cysylltwch â Sian Jones - Sian.Jones80@wales.nhs.uk neu Karen Vennard- Karen.Vennard2@wales.nhs.uk