Neidio i'r prif gynnwy

Clinigau Ffliw Penwythnos - Blaenau Gwent

Dydd Mercher 23ain o Fedi 2020

Bydd nifer o glinigau ffliw penwythnos yn rhedeg ar draws Blaenau Gwent y penwythnos hwn.

Fel y gwyddom i gyd, mae'r Fwrdeistref wedi ei rhoi mewn cyfnod clo lleol gan Lywodraeth Cymru. Os cawsoch eich gwahodd i fynychu un o'r clinigau hyn, hoffwn eich sicrhau bod hon yn daith hanfodol.

Bydd yr holl staff yn y lleoliadau yn gwisgo PPE priodol, a byddwch yn cael eich gweld mewn ardal sy'n caniatau Ymbellhau Cymdeithasol, ac yn cael gorchuddion wyneb os nad oes gennych chi'ch un chi. Byddwn yn cymryd pob rhagofal i sicrhau eich diogelwch trwy gydol eich ymweliad.

Mae cael eich pigiad ffliw yn bwysicach nag erioed yn ystod yr amser hwn a bydd yn helpu i'ch amddiffyn trwy gydol y gaeaf hwn.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael mwy o wybodaeth am ymgyrch Curwch Ffliw.