Yn sgil y cyfyngiadau clo lleol ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili, mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud gwiriadau ar y ffyrdd i helpu i orfodi mesurau’r cyfnod clo.
Os ydych yn glaf sy’n teithio y tu hwnt i’r Fwrdeistref yr ydych yn byw ynddi i fynychu apwyntiad ysbyty, rydym yn eich cynghori chi i ddod â’ch llythyr apwyntiad gyda chi fel tystiolaeth eich bod yn cael gofal iechyd yn un o safleoedd y Bwrdd Iechyd. Os nad oes gennych gopi o’r llythyr, rydym yn eich cynghori chi i gadw cofnod o’r rhifau ffôn canlynol fel y gallwch ffonio i gadarnhau eich apwyntiad a chynorthwyo’r heddlu i brofi eich rheswm dros deithio.
Y Ganolfan Atgyfeirio ac Archebu: 01495 765055
Os ydych chi'n mynychu Ysbyty St Joseff, ffoniwch: 01633 820300
Diolch.