*Cyhoeddiad Pwysig*
Gall ein Hunedau Mân Anafiadau (MIUs) ardraws Gwent drin amrywiaeth eang o fân anafiadau mewn oedolion a phlant dros 1 oed, ond NI allant drin salwch neu anafiadau difrifol. Yn ddiweddar, mae cleifion wedi bod yn ymweld â'n Hunedau Mân Anafiadau gyda phroblemau meddygol y mae angen eu trin yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, sydd wedi golygu ein bod yn gorfod eu trosglwyddo i’r ysbyty hwn.
Rydym am sicrhau bod ein trigolion lleol yn gwybod sut i fynd i'r lle iawn, y tro cyntaf, felly dyma nodyn i'ch atgoffa na all ein Hunedau Mân Anafiadau drin y canlynol:
Dewch o hyd i gyngor ar ble i fynd pan fydd angen cymorth meddygol arnoch gyda'r Canllaw Iechyd Gwent am ddim: https://bipab.gig.cymru/ysbytai/cael-help/