Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn annog rhieni i wirio statws MMR plant wrth i achosion o'r Frech Goch godi yng Ngwent.

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus o'r farn bod y frech goch yn lledaenu yn y gymuned yng Ngwent gyda naw achos o'r frech goch wedi'u cadarnhau bellach.

Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Hoffwn ofyn i bob rhiant yng Ngwent sicrhau bod eu plant wedi cael eu brechiadau MMR ar yr oedran priodol – hynny yw, y dos cyntaf tua 12 mis gyda’r ail ddos atgyfnerthu pan fyddant tua thair blwydd a phedwar mis oed. Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR eto, gall ddod ymlaen am ei frechlyn o hyd. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.

“Mae’n hawdd iawn i rieni wirio statws brechu eu plentyn, gallant edrych ar eu llyfr coch, neu ymweld â gwefan eu bwrdd iechyd lleol. Os ydynt yn byw yng Ngwent, gallant ffonio'r tîm brechu ar 0300 303 1373 i drefnu brechlyn MMR.

“Rwyf hefyd yn annog pobl i fod yn ymwybodol o’r symptomau cynnar sy’n cynnwys; tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llid yr amrannau (poenus, llygaid coch) ac weithiau smotiau gwyn bach ar y tu mewn i'r geg. Os ydych yn amau’r Frech Goch, arhoswch gartref a chysylltwch â’ch Meddyg Teulu am apwyntiad brys neu ffoniwch 111.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr achosion diweddar, ewch i Tystiolaeth gyntaf o'r frech goch yn lledaenu yn y gymuned, wrth i achosion godi yn achos Gwent. - Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)