Neidio i'r prif gynnwy

Gwnewch y Pethau Bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Heddiw dathlwn ein Nawddsant Cymru, Dewi Sant, a ddywedodd “gwnewch y pethau bychain”.

Mae gwirfoddolwr Ffrind i Mi, Sylvia, wedi bod yn rhoi ei hamser i ymweld â chleifion mewn ysbytai ledled Gwent ac roedd wrth ei bodd pan ddaeth hi ar draws claf Cymraeg yn ddiweddar yr oedd hi'n gallu sgwrsio â hi yn Gymraeg. Roedd hyn yn gwneud i'r claf deimlo'n gartrefol ar unwaith, a dywedodd Sylvia mai eu gwên oedd yr unig ddiolchgarwch sydd ei angen arni - peth bach iddi hi a wnaeth wahaniaeth mawr i'r claf.

Clywch bopeth am stori Sylvia isod.

 

Darganfyddwch fwy am fod yn wirfoddolwr Ffrind i Mi yma.