Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Ewropeaidd Undod Rhwng Cenedlaethau!

Heddiw yw Diwrnod Undod Ewropeaidd rhwng Cenedlaethau.
 
Mae'r diwrnod hwn yn cydnabod y cysylltiad rhwng cenedlaethau, yn tynnu sylw at yr angen i frwydro yn erbyn rhagfarn ar sail oed, ac yn ein galluogi i gysylltu fel sefydliadau i hyrwyddo prosiectau ac ymarfer rhwng cenedlaethau.
 

Dros y blynyddoedd, mae ein Tîm Gofal i'r Unigolyn wedi bod yn cysylltu Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd a Sefydliadau Ieuenctid eraill â Chartrefi Gofal a Wardiau lleol ar draws Gwent, gan ganiatáu i'r ieuengaf yn ein cymuned gysylltu â phobl hŷn trwy ymgymryd â gweithgareddau ystyrlon i gael gwared ar unigrwydd ac arwahanrwydd.

Oherwydd yr amseroedd digynsail hyn, efallai na fydd y cysylltiad corfforol yn bosibl mwyach, ond nid yw hyn wedi rhoi stop ar ein harferion rhwng cenedlaethau.

Mae Cadetiaid Heddlu Gwent wedi ysgrifennu dros 50 o lythyrau i godi ysbryd hyd yma at drigolion y Cartrefi Gofal, a gafodd dderbyniad ddiolchgar iawn ac y mae preswylwyr wedi ymateb iddynt. Mae'r ysgolion a fyddai fel arfer yn ymweld â Chartrefi Gofal hefyd bellach yn cynnal eu cyfeillgarwch â thrigolion trwy ohebu trwy lythyrau.

Yn ystod y sefyllfa bresennol, mae'r genhedlaeth iau wedi cymryd rhan mewn llawer iawn o weithgaredd ysbryd cymunedol, sy'n wirioneddol hyfryd i'w weld. Mae hyn yn cynnwys gwneud bagiau lliain ar gyfer eiddo cleifion, anfon ffilmiau o negeseuon 'diolch' i'n staff rheng flaen, codi arian ar gyfer y GIG, a rhoi eu harian Pasg, ynghyd â llu o weithgareddau eraill.

Diolch i'n holl gefnogwyr, o bob cenhedlaeth!