Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Yn Cydweithio Ag Ysbytai Preifat I Ddarparu Gwelyau Ychwanegol Yn Ystod Yr Achosion Coronaferiws

Dydd Iau 16eg Ebrill

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio gydag Ysbyty St Joseff yng Nghasnewydd i ddarparu 36 o welyau ychwanegol i gleifion.

Mae'r cytundeb, fel rhan o bartneriaeth ffurfiol â GIG Cymru, yn darparu capasiti ychwanegol ar gyfer triniaethau brys a chanser a fyddai fel arfer yn digwydd yn ysbytai'r GIG y Bwrdd Iechyd.

Mae Ysbyty St Joseff wedi ymrwymo ei gapasiti gwelyau, cyfleusterau, arbenigedd ac adnoddau i weithrediadau arferol y GIG yn ystod yr ymateb cenedlaethol. Bydd y gwasanaethau a fydd yn cael eu cynnig i gleifion y GIG yn Ysbyty St Joseff yn cynnwys llawfeddygaeth y fron, llawfeddygaeth gynaecolegol, llawfeddygaeth wrolegol, a llawdriniaethau priodol eraill sydd wedi'u cynllunio.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae’r achos Coronafeirws wedi golygu ein bod wedi gorfod gweithredu’n gyflym i ailstrwythuro ac ailalinio llawer o’n gwasanaethau presennol.

“Mae staff ein GIG wedi dangos lefelau anhygoel o sgil, gwaith caled a phenderfyniad i ymateb i'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu ar yr adeg anodd hon.

“Hoffem ddiolch i Ysbyty St Joseff ac rydym yn croesawu’r trefniant dros dro hwn a fydd yn ein helpu i barhau â gweithrediadau a gynlluniwyd a allai fod wedi’u gohirio fel arall oherwydd yr amgylchiadau presennol.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Ysbyty St Joseff, Stuart Hammond: "Ein blaenoriaeth yw helpu ein cydweithwyr yn y GIG a rhoi’r driniaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd cleifion yn elwa o’r arbenigedd ar y cyd a’r gofal tosturiol gan bawb yn St Joseff. Rydym yn barod i gefnogi'r GIG yn ystod yr amser digynsail hwn o argyfwng cenedlaethol. "