Yn ddiweddar, cynhaliwyd Cynhadledd Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn, lle cafwyd cyflwyniad gan Eriatregydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Dr Inder Singh, ar y gwaith sydd ar y gweill yn y Bwrdd Iechyd i wella iechyd esgyrn.
Ar ôl nodi’r nifer cynyddol o achosion o dorri asgwrn clun yng Ngwent a’u costau cysylltiedig sylweddol i’r GIG, mae Dr Singh wedi arwain sawl menter ers 2020 i wella iechyd esgyrn a gofal Orthogeriatrig yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys integreiddio a chryfhau partneriaethau ar draws timau Rhiwmatoleg, Radioleg ac Orthogeriatrig i symleiddio prosesau a nodi toriadau esgyrn brau yn y rhai dros 50 oed.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i wella'r gwaith hwn ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.
Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau gofalu am eich esgyrn - defnyddiwch y Gwiriwr Risg Osteoporosis isod.