Yn ddiweddar buom yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ar 5ed o Fai 2024 a Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys ar 12eg o Fai 2024. O fabanod newydd-anedig a bydwragedd dan hyfforddiant i nyrsio drwy'r oesoedd a gwobrau nyrsys a addysgir yn rhyngwladol… dyma grynodeb o'r dathliadau!
I gychwyn Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig, fe wnaethom ofyn i’n dilynwyr rannu rhywfaint o gariad at fydwraig sy’n ei haeddu yn y sylwadau. Wnaethon nhw hynny yn union!
Darllenwch y gweddill ar ein tudalen Facebook!
Mae Dilly yn Fydwraig dan hyfforddiant a benderfynodd ddilyn ei breuddwydion o ddod yn fydwraig yn ystod y cyfnod clo Covid-19:
Hoffwn roi sylw i’r holl fydwragedd, gweithwyr cymorth mamolaeth a bydwragedd dan hyfforddiant gwych yn ein Bwrdd Iechyd sy’n gweithio mor galed i gefnogi mamau a babanod yn ystod cyfnod arbennig iawn yn eu bywydau.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Nyrsys, derbyniodd ein staff nyrsio nifer aruthrol o sylwadau cadarnhaol o ddiolch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Darllenwch ychydig isod:
Gallwch ddarganfod mwy ar ein tudalen Facebook.
Cynhaliodd ein Nyrsys a Addysgir yn Rhyngwladol seremoni arbennig i ddathlu'r diwrnod.
Talodd llawer o’n staff nyrsio deyrnged i nyrsys y gorffennol drwy wisgo gwisgoedd nyrsio hŷn am y diwrnod!