Ar Ddydd Gwener 12 Gorffennaf 2024, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd y gynhadledd gyntaf i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ers 2018. Drwy gydol y dydd, daeth ystod o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ynghyd i rannu mentrau newydd, ysgogi ffyrdd newydd o feddwl, ac i arddangos y cyfraniad gwych y mae'r cydweithwyr hyn yn ei wneud i'n gwasanaethau bob dydd.
Roedd yr agenda gorlawn yn cynnwys popeth o gyflwyniadau cyflym, sesiynau holi ac ateb a siaradwyr gwadd, i stondinau gwybodaeth, heriau, trafodaethau cyfoedion, a pherfformiad ysbrydoledig gan Gôr Byddar Cwmbrân.
Drwy gydol y dydd, roedd nifer o siaradwyr gwadd o ystod o wahanol arbenigeddau a chefndiroedd, gan gynnwys Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, Nicola Prygodzicz; Peter Carr, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd; Emma Louise Sinnott, Therapydd Lleferydd ac Iaith Arbenigol; Dr Francis Subash, Anaethsetist Ymgynghorol; ac Aelod Annibynnol ac Is-Gadeirydd, Pippa Britton. Cafwyd cyflwyniadau cyflym hefyd ar waith trawsnewid gan gydweithwyr yn Orthopteg; Radioleg; Ffisiotherapi; Therapi Galwedigaethol; Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn; Anableddau Dysgu; y Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol, a'r Tîm Therapïau Celfyddydau Anableddau Dysgu.
Dewch i gwrdd â rhai o'n Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn y fideo canlynol: