Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad Gwasanaeth Negeseuon Newydd i Gadw Cleifion Ysbyty Mewn Cysylltiad ag Anwyliaid

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cyflwyno gwasanaeth negeseuon newydd i gadw cleifion Ysbyty mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod yr achos Coronafeirws.

Yn dilyn y penderfyniad anodd a wnaed i gau ein holl Safleoedd Ysbyty i ymwelwyr, rydym wedi gweithredu gwasanaeth 'Negeseuon o'r Cartref' newydd. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i berthnasau a ffrindiau helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid yn yr ysbyty nad oes ganddynt fynediad efallai at ddyfeisiau cyfathrebu.

Bydd cyflwyno'r gwasanaeth negeseuon cleifion newydd hwn yn galluogi teuluoedd a ffrindiau i gyfleu dymuniadau da i'w hanwyliaid yn yr ysbyty trwy gyfeiriad E-bost bwrpasol.

Bydd pob neges a dderbynnir yn cael ei hargraffu gan aelod o staff a'i throsglwyddo i dîm Clinigwr y claf. Rhoddir cymorth i ddarllen negeseuon os oes angen.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Gellir barhau i ddanfon negeseuon trwy e-bost dros y penwythnos, ond ni fydd y rhain yn cael eu dosbarthu tan Ddydd Llun.
 
Dylai unrhyw un sy'n dymuno anfon neges at ffrind neu rywun annwyl anfon e-bost, ynghyd ag enw llawn y claf, Rhif y Ward a Safle'r Ysbyty at: MessagesfromHome.ABB@wales.nhs.uk.