Neidio i'r prif gynnwy

Ail Gyfres O Raglen Gofal Dwys, 'Critical', I Ddechrau Ar Ddydd Sul, 5ed Ebrill

Mae ein staff Gofal Critigol ar y rhengflaen wrth ofalu am gleifion y mae Coronafeirws yn effeithio'n ddifrifol arnynt.

Mae ail gyfres y rhaglen ddogfennol hon ar y BBC, sy'n cychwyn nos Sul hon, yn edrych unwaith eto ar Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Gwent a gwaith ein staff talentog iawn.

Ni fydd hon yn rhaglen hawdd ei gwylio, yn enwedig ar yr adeg hon, ond bydd yn eich sicrhau bod staff yn gallu cynnig y safonau uchaf o ofal i gleifion pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Enillodd y gyfres gyntaf, a ffilmiwyd hefyd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wobr BAFTA y llynedd.

Bydd pob pennod ar gael ar BBC iPlayer ar ôl y darllediad cyntaf nos Sul am 10:30yp.