Neidio i'r prif gynnwy

Cyfyngiadau Ymweld Diweddaraf 28 Ebrill 2020

Dydd Mawrth 28ain Ebrill 2020

Mae'r cyngor hwn ar gyfer wardiau cyffredinol ac nid yw'n cynnwys ardaloedd lle mae cleifion yn derbyn gofal a thriniaeth ddwys. 

Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn gwerthfawrogi'n fawr ei bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deuluoedd sydd ag anwyliaid yn yr ysbyty, ac mae'r polisi 'Dim Ymwelwyr' wedi'i gyflwyno yn unol â'r 'lockdown' rhannol gan y Llywodraeth. Mae wedi bod yn hanfodol i ni roi mesurau ar waith i ddiogelu cleifion, teuluoedd, staff a'r cyhoedd drwy leihau traffig yn ein hysbytai a lleihau'r risg o groeshalogi.

Mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson yn lleol ac yn genedlaethol ac, ar unwaith, mae'r eithriadau canlynol nawr ar waith.

Dylid caniatáu ymweliadau ar gyfer:

  • menywod yn rhoi genedigaeth (partner geni, o'u haelwyd)
  • rhiant neu warcheidwad enwebedig i blentyn yn yr ysbyty ac i fabanod newyddanedig
  • rhywun â phroblem iechyd meddwl, anabledd dysgu neu awtistiaeth, lle byddai peidio â bod yn bresennol yn achosi trallod i'r claf/defnyddiwr gwasanaeth. Bydd hyn yn cael ei asesu gan y Prif Nyrsys Ward a'r opsiynau ymweld wedi'u sicrhau ymlaen llaw.
  • Cleifion sy'n derbyn gofal diwedd oes. Bydd caniatâd i ymweld yn cael ei sicrhau o flaen llaw (lle bo hynny'n bosibl), un ymwelydd ar y tro a fydd hwn am gyfnod penodedig fel y cytunwyd gan y Prif Nyrs Ward.

Rydym yn cydnabod bod ymweld â'r teulu, ar gyfer y cleifion uchod, yn hanfodol bwysig, ac rydym wedi ceisio cydbwyso hyn yn ofalus â'r risg o lledaeniad yr haint.

Mewn wardiau cyffredinol, bydd ein staff yn siarad â chi am drefniadau ar gyfer ymweld ar yr adeg anodd hon ac yn ceisio eich cefnogi'n llawn wrth gadw mewn cysylltiad â'ch anwyliaid.

Sylwch, nid yw bob amser yn bosibl rhagfynegi pan fydd rhywun yn y dyddiau/oriau olaf o'u bywyd, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i gysylltu â chi os ydym yn teimlo bod hyn yn wir ar gyfer eich anwyliaid.

Bydd trafodaeth gyda'r Prif Nyrsys Ward yn cael ei chynnal i gytuno ar amserlen ymweld. Bydd ymwelydd enwebedig sy'n iach (Iach = heb fod â symptomau Covid–19) yn cael cymorth llawn i ddefnyddio offer diogelu personol, lle bo angen. Bydd yr ymwelydd enwebedig, sy'n rhydd o arwyddion neu symptomau Covid-19, yn cael trafodaeth gyda'r Prif Nyrsys Ward a bydd hyn yn cynnwys: y cwestiynau sgrinio Covid-19 a thynnu sylw at y cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer grwpiau risg uchel sy'n ymwneud ag Ynysu Cymdeithasol. Os yw'r darpar ymwelydd yn nodi ei fod yn rhydd o arwyddion a symptomau Covid-19 ac yn ymwybodol o'r risg bosibl sy'n gysylltiedig ag ymweld, yna dylid caniatáu iddynt ymweld. Dylid cofnodi'r sgwrs hon yng nghofnodion iechyd y cleifion.