Neidio i'r prif gynnwy

384 o welyau ychwanegol bellach ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Dydd Llun 27ain Ebrill 2020

Mae yna nawr 384 o welyau ychwanegol ar gael ac yn barod i gleifion, pe bai eu hangen yn ystod yr achos Coronafeirws.

Fe wnaeth contractwyr sy'n adeiladu Ysbyty newydd Athrofaol y Faenor yn Llanfrechfa, Cwmbran, drosglwyddo nifer o wardiau gorffenedig heddiw (Dydd Llun, 27ain Ebrill) - fisoedd yn gynt na'r disgwyl.

Gweithiodd Laing O'Rourke a Gleeds yn ddi-baid i gael y capasiti ychwanegol yn yr ysbyty newydd yn barod mewn dim ond pedair wythnos. Yn ffodus, nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi gweld y cynydd mawr mewn achosion yr oedd yn eu disgwyl, felly nid oes angen agor y gwelyau ar hyn o bryd.

Diolchodd y Prif Weithredwr, Judith Paget, drigolion Gwent am eu cefnogaeth a dywedodd ei bod yn gobeithio na fydd angen agor y gwelyau ychwanegol yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn gynnar.

“Ar ddechrau’r achos Coronafeirws, roedd angen i ni gynllunio ar gyfer y senario waethaf,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i Laing O'Rourke a Gleeds am yr ymdrech a'r sgil fawr maen nhw wedi'u dangos i gael y rhannau hyn o'r ysbyty yn barod i ni eu defnyddio.

“Diolch byth, mae’r cyhoedd wedi arsylwi ar y cyngor ar aros gartref a phellter cymdeithasol, felly nid oes angen i ni agor y gwelyau ychwanegol eto.

“Byddwn yn annog pobl i barhau i ddilyn arweiniad y llywodraeth i amddiffyn eu hunain, i leddfu’r pwysau ar ein gwasanaethau GIG, ac i achub bywydau.”

Dywedodd Mike Lewis, Cyfarwyddwr Prosiect Laing O'Rourke: “Roedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y rhagwelediad i ofyn inni ddod â'n rhaglen adeiladu ymlaen, gan greu 384 o leoedd gwely fel rhan o'u paratoadau i fynd i'r afael â Choronafeirws yng Nghymru.

“Rwy’n wylaidd gan yr ymdrech aruthrol a ddangoswyd gan bawb yn ein tîm prosiect a diolchaf iddynt am eu hymrwymiad. Mae ein cymhelliant i ddarparu rhannau allweddol o Ysbyty Athrofaol y Faenor i'w defnyddio flwyddyn yn gynt na'r disgwyl wedi'i yrru gan ein penderfyniad i ddarparu cyfleusterau hanfodol y GIG ac i gefnogi pawb sy'n gweithio yn y GIG, y mae arnom gymaint o ddyled iddynt."

Dywedodd Victoria Head, Cyfarwyddwr Prosiect Gleeds: “Ers ei sefydlu, mae prosiect Ysbyty Athrofaol y Faenor bob amser wedi bod ag ethos cydweithredol go iawn wrth ei wraidd - gweithio gyda'n gilydd ar gyfer nod a rennir, ac rydym wedi cadw at hynny, gan fynd i'r afael â phob her yn falch a chwblhau'r ysbyty yn yr amser gorau erioed trwy fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar atebion.

“Gyda’r ewyllys orau yn y byd, yn sylfaenol, pe bai hwn wedi bod yn adeilad traddodiadol gyda’r un dyddiad cychwyn, ni fyddem wedi bod mewn sefyllfa i gynnig cefnogaeth i’r pandemig cenedlaethol hwn a’r GIG. Rydyn ni bob amser wedi bod yn falch o'r dulliau adeiladu modern (MMC) sy'n gysylltiedig ag Ysbyty Athrofaol y Faenor a'r arbedion rhaglen a gynigiodd o'i gymharu ag adeilad traddodiadol, ond ni fu'r buddion erioed yn fwy amlwg nag yn ystod yr argyfwng hwn."

Isod: Mae Judith Paget, Mike Lewis a Nicola Prygodzicz yn trafod y gwaith caled a wnaeth hyn yn bosib.

(Ch-Dd): Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Judith Paget, Cyfarwyddwr Prosiect Laing O'Rourke, Mike Lewis, a Chyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz.