Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch Ni i Lunio ein Gwasanaethau Profedigaeth - Dying Matters Awareness Week

Bob blwyddyn, mae pobl ledled y DU yn defnyddio 'Dying Matters Awareness Week' fel amser i annog pob cymuned i ddechrau siarad ym mha bynnag ffordd, siâp neu ffurf sy’n gweithio iddyn nhw.

Mae thema eleni, 'Mae'r ffordd rydyn ni'n siarad am Farw o Bwys', yn canolbwyntio ar yr iaith rydyn ni'n ei defnyddio, a'r sgyrsiau rydyn ni'n eu cael, am farwolaeth a marw - yn benodol rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

 

Y Sgwrs Fawr - Profedigaeth

Ar ryw adeg yn ein bywydau, byddwn ni i gyd yn colli rhywun sy'n bwysig i ni. Mae sut rydym yn delio â'n colled yn wahanol i bob person, ond bydd gennym ni i gyd rywbeth yn gyffredin……… galar.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’n partneriaid eisiau datblygu model profedigaeth cynhwysol ac ymatebol, un sy’n darparu mynediad at gymorth profedigaeth tosturiol i unrhyw un sy’n byw yn ein hardal, ar adeg pan fo’i angen arnynt.

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd ein Digwyddiad Sgwrs Fawr am Brofedigaeth cyntaf, a gynhaliwyd yn llwyddiannus ar 20 Mawrth 2024. Roedd yna ambell i berson na oedd yn gallu bod yn bresennol, ond maent wedi dweud wrthym y byddent yn dal i hoffi'r cyfle i ddweud wrthym am eu profiadau ac i'n helpu i lunio ein model profedigaeth newydd.

Rydym yn cynnal Sgwrs Fawr ynghylch profedigaeth ar draws Gwent rhwng Mai a Gorffennaf 2024.

  • 24 Mai 2024, 10yb - 2yp, Ysgubor y Tythe, Monk Street, Y Fenni NP7 5ND
  • 3 Mehefin 2024, 10yb - 2yp, Olive Tree, Edlogan Way, Cwmbrân NP44 2JJ
  • 20 Mehefin 2024, 10yb - 2yp, Ysbyty Aneurin Bevan, Lime Ave, Glyn Ebwy NP23 6GL
  • 9 Gorffennaf 2024, 10yb - 2yp, Ysbyty Cymunedol Cas-gwent, Tempest Way, NP16 5YX
  • *Dyddiadau ar gyfer Caerffili a Chasnewydd i'w gadarnhau*

Hoffem wahodd unrhyw un sy’n fodlon rhannu eu profiad profedigaeth i ymuno â ni, boed fel person mewn profedigaeth eich hun, neu lle rydych wedi bod yn cefnogi rhywun sydd wedi cael profedigaeth. Hoffem hefyd glywed gan unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi pobl mewn profedigaeth gan gynnwys gwirfoddolwyr, sefydliadau trydydd sector, athrawon, arweinwyr eglwys ac ati.

Bydd yr adborth a gawn yn cael ei ddefnyddio i lunio ein model profedigaeth newydd a gwella ein harlwy profedigaeth. I gofrestru i fynychu ac i ddod o hyd i ddyddiadau a lleoliadau pellach, archebwch trwy'r ddolen hon: https://forms.office.com/e/cJJTBDeEWa neu ffoniwch 01495 768645.

Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ond yr hoffech siarad â ni am eich profiad o brofedigaeth o hyd, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyngor a Chysylltiadau Cleifion ar 01633 496753 neu abb.pals@wales.nhs.uk

Isod mae ffurflen adborth fer i naill ai rannu eich profiad gyda ni neu fynegi diddordeb mewn mynychu sgyrsiau yn y dyfodol.

Dilynwch y ddolen hon neu sganiwch y cod QR i gwblhau'r ffurflen adborth fer.