Ar hyn o bryd mae 44,000 o bobl yn byw gyda diabetes yng Ngwent a llawer mwy o bobl mewn perygl o ddatblygu diabetes yn y dyfodol.
Mae diabetes math 1 yn aml yn ymddangos yn gyflym dros ddyddiau neu wythnosau ac mae symptomau’n cynnwys rhai neu bob un o’r 4T, Teimlo’n Sychedig, Tŷ bach (pasio wrin yn aml), Teimlo’n Flinedig, Teneuach (colli pwysau). Gofynnwch am gyngor meddygol ar frys os yw'r symptomau hyn gennych.
Mae diabetes math 2 yn llawer mwy cyffredin ac yn aml gall fod yn bresennol heb y symptomau hyn. Rydym yn cynghori pobl sydd mewn perygl, y rhai sydd dros bwysau, neu sydd â phwysedd gwaed uchel, i gael archwiliadau rheolaidd i fonitro lefelau glwcos er mwyn dod o hyd i unrhyw arwyddion cynnar o ddiabetes.
Mae’n bleser gennym rannu ein sgwrs gyda phreswylydd lleol o Went, Keith (fe’i gwelir yn y llun isod gyda’i wraig ar wyliau), ar sut y trawsnewidiodd ei iechyd a’i ffitrwydd pan gafodd ddiagnosis o Diabetes Math 2 yn ei 40au.
Beth oedd eich arwyddion/symptomau cyntaf o Ddiabetes Math 2 a wnaeth i chi fynd i gael eich gwirio?
Roedd gen i wddf sych trwy’r amser ac roeddwn i'n sychedig iawn, roedd angen i mi basio wrin drwy'r amser ac roeddwn i'n gyrru llawer yn y gwaith felly roedd yn golygu bod yn rhaid i mi stopio dro ar ôl tro.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth eraill sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 2?
Gyda'r wybodaeth a'r driniaeth sydd ar gael heddiw, ewch at eich meddyg teulu i gael eich gwirio, gwnewch ymarfer corff a gwyliwch eich diet.
Beth oedd eich ffordd o fyw a'ch arferion bwyta ar y pryd?
Gormod o waith dim digon o ymarfer corff, mae'n debyg fy mod yn yfed gormod o alcohol hefyd. Roedd fy niet yn gymedrol, ond yn amlwg gallai fod wedi bod yn well - roeddwn i dros bwysau’n sylweddol.
Sut oeddech chi’n teimlo am orfod newid i chwistrellu inswlin bob dydd er mwyn rheoli’r siwgr yn eich gwaed?
Roedd yn anodd i ddechrau, ac ar ôl i mi ddysgu sut y gallwn i chwistrellu llai trwy reoli fy neiet yn well, fe wnes i leihau fy mhigiadau inswlin yn raddol wrth i mi ddod yn iachach ac yn deneuach. Rwy'n dal i chwistrellu gyda'r nos, ond mae hyn gryn dipyn yn llai nag yr oeddwn i’n ei wneud, ac nid oes angen chwistrellu yn y dydd nawr gan fod fy neiet a faint o ymarfer corff yr wyf yn ei wneud yn golygu fod fy siwgr gwaed yn fwy sefydlog.
Beth oedd eich cymhelliant i ddod yn iachach?
Symudais i Gymru i ddod yn fwy heini - i fod yn agosach at fy ngwaith felly roedd yn golygu llai o yrru a mwy o amser ar gyfer ymarfer corff. Rwyf wedi bod yn mynd i'r gampfa sawl gwaith yr wythnos bellach ers 1998 ac rwyf yn rheoli fy neiet.
Dywedodd Sian Bodman, un o’n Uwch Nyrsys ar gyfer Diabetes:
“Fel rhan o’n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o atal a rheoli diabetes, rydym yn falch o lansio ein tudalennau gwe diabetes newydd sbon sy’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac adnoddau diabetes ynghyd i gefnogi unigolion y mae diabetes yn effeithio arnynt ledled Gwent. Gwyddom pa mor bwysig yw hunanreoli er mwyn rheoli diabetes yn ddiogel ac mae’r tudalennau gwe hyn wedi’u cynllunio i wella ymwybyddiaeth o ddiabetes, y risgiau o ddatblygu cymhlethdodau ac yn bwysig, beth allwn ni ei wneud i leihau’r risgiau hynny, cymerwch gip: Diabetes UK Cymru | Diabetes UK