Dydd Gwener 17eg Ebrill
Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n peryglu bywyd ac sy'n digwydd pan fydd ymyrraeth â'r cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd. Mae strôc yn argyfwng meddygol ac mae triniaeth gynnar ar frys yn hanfodol.
Os ydych chi'n amau eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.
Fodd bynnag, os ydych chi neu rywun arall yn eich teulu eisoes wedi sylwi ar symptomau tebyg i strôc ac nad ydych wedi cymryd unrhyw gyngor meddygol oherwydd yr epidemig Coronafeirws, cysylltwch â'ch Meddyg Teulu a fydd mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Strôc yn y Bwrdd Iechyd a byddwn yn anelu at drefnu ymgynghoriad gydag arbenigwr. Ni fydd hyn bob amser yn gofyn am apwyntiad wyneb yn wyneb ac mae gennym opsiwn ymgynghori rhithwir ar gael.
Lle y bo'n briodol, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â'n Tîm Strôc Cymunedol sy'n parhau i ddarparu adsefydlu, cyngor a chefnogaeth i bobl y mae Strôc yn effeithio arnynt trwy ystod o ffyrdd ymbellhau cymdeithasol a byddwn yn sicrhau bod gennych adsefydlu priodol yn y cartref ar yr adeg hon.
Symptomau strôc:
Arwyddion strôc - 'FAST'