Ar Ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024 - ar ben-blwydd y GIG yn 76 oed - cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ein Gwobrau Cydnabod Staff blynyddol. Mae bob amser yn bleser croesawu pawb i’r digwyddiad arbennig hwn, lle mae cydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd yn ymgynnull i ddathlu llwyddiannau ei gilydd a’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r gofal rhagorol a roddir gan dimau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Llywyddwyd y digwyddiad gan y Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz.
Wrth agor y digwyddiad, cydnabu Nicola y nifer aruthrol a safon yr enwebiadau a dderbyniwyd eleni. Meddai: “Mae’n destament i arbenigedd, ymroddiad a thosturi ein staff, er gwaethaf yr heriau niferus sy’n ein hwynebu, ein bod yn parhau i gamu i fyny a chadw ein ffocws lle y dylai fod – ar y claf a’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.
"Rydym yn cydnabod, hyd yn oed gyda'r nifer hyn o enwebiadau, mai dim ond cipolwg yw hwn o'r gwaith rhagorol a wneir gan ein staff bob dydd. Felly mae ein dathliad heno yn ymwneud â chydnabod cyfraniad ein holl staff ond mae'r rhai ohonoch sydd yma heddiw, yn arbennig, wedi cael eich cydnabod am eich ymroddiad a’ch ymdrechion.”
Ac ymlaen at y gwobrau - rhestrir yr holl enillwyr a'r rhai a dderbyniodd dystysgrifau cymeradwyaeth uchel isod: