Neidio i'r prif gynnwy

Tudalen Elusen Coronafirws y Bwrdd Iechyd yn Cyrraedd £22,360 mewn 48 Awr

Ar ôl sefydlu tudalen 'Just Giving' Swyddogol y Bwrdd Iechyd 48 awr yn ôl, rydym eisoes wedi ein gorlethu gan ei chyfanswm.
 
Ymhlith y rhoddion hyn, rydym wrth ein boddau ac yn wylaidd ein bod wedi derbyn rhodd o £10,000 gan y pêl-droediwr a anwyd yng Nghaerffili, Aaron Ramsey.
 

Bydd y rhodd yma, gan seren pel-droed Juventus a Chymru, yn cael ei ddefnyddio i helpu ein staff a'n cleifion ar yr adeg anodd hon.

Rydym yr un mor ddiolchgar i'r holl bobl ardraws Gwent sydd wedi rhoi i'n tudalen 'Just Giving'- beth bynnag yw'r swm, mae'r gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn yn golygu llawer iawn ac yn rhoi hwb morâl mawr ei angen i'n staff.

Os hoffai unrhyw un gyfrannu, gallant wneud hynny trwy ein tudalen 'Just Giving', neu trwy brynu eitemau hanfodol ar ein Rhestr Ddymuniadau Amazon.

Os na allant roi, gallant ein helpu o hyd trwy ddilyn canllawiau'r Llywodraeth i aros gartref i amddiffyn ein GIG lleol ac achub bywydau.

Diolch yn fawr i bob un ohonoch chi!