Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a hoffai ein tîm CAMHS anfon neges atoch chi fel rhieni / gofalwyr sy'n pryderu ynghylch iechyd meddwl eich plentyn, i hunangyfeirio trwy SPACE-Wellbeing Gwent.
Mae Un Pwynt Mynediad ar gyfer Llesiant Emosiynol (SPACE) yn dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd sy'n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau gwahanol ar draws ardal BIPAB; sy'n rhoi cymorth o ran iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant, fel y gall plant a'u teuluoedd gael y cymorth cywir, gan yr unigolyn cyntaf, y tro cyntaf.
Os ydych yn dymuno gofyn am gymorth i'ch plentyn neu'ch unigolyn ifanc trwy SPACE-Wellbeing, cliciwch yma: Sut i fanteisio ar wasanaethau cymorth yn ardal BIPAB: Iachach gyda'n Gilydd (cymru.nhs.uk) a dewiswch yr ardal yr ydych yn byw ynddi. Mae fideo ar gael hefyd i esbonio sut i hunangyfeirio trwy SPACE-Wellbeing a sut y gallwch fanteisio ar gymorth.
Diolch i'n staff sydd wedi'n helpu i greu fideo er mwyn disgrifio sut y gallwch hunangyfeirio.
Mae'r broses hunangyfeirio'n golygu, nid yn unig nad oes angen i chi drefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu ond bod modd i chi roi gwybod am anghenion eich plentyn a sicrhau bod gennym ddarlun llawn o'r hyn sy'n digwydd. Mae hyn yn golygu bod y gwasanaethau sy'n defnyddio ein paneli SPACE-Wellbeing yn gallu defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i gytuno pwy fyddai orau i roi cymorth i chi. Nid oes angen cymorth CAMHS ar gyfer yr holl atgyfeiriadau'n benodol ac mae'n bosibl y byddai gwasanaethau eraill yn fwy addas i roi cymorth gyda'r atgyfeiriad.
Rydym hefyd yn croesawu llais ein Pobl Ifanc ac mae ar ein ffurflenni hunangyfeirio le er mwyn caniatáu i bobl ifanc roi gwybod i ni am eu hanghenion a'u pryderon.
Byddwn ond yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom ond hoffem roi sicrwydd i chi y caiff pob un atgyfeiriad a anfonir dros e-bost neu Microsoft Forms eu hystyried a chaiff llythyr canlyniad ei anfon at deuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am y camau nesaf.
Tracey Smith yw Rheolwr Tîm SPACE-Wellbeing: "Mae pob un o'n Cydlynwyr SPACE-Wellbeing a Chynorthwywyr Gweinyddol ar draws SPACE-Wellbeing Gwent yn ymrwymedig i roi cymorth i gleifion o ran sicrhau bod y broses hunangyfeirio mor hygyrch â phosibl. Anogir rhieni i gysylltu â'u Cydlynydd SPACE-Wellbeing er mwyn gofyn unrhyw gwestiynau, dilyn cynnydd gyda'r atgyfeiriad neu i ofyn am gyngor. Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu bob tro."
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn profi argyfwng iechyd meddwl brys, ffoniwch CAMHS ar 01633 749519.
Mae cymorth i unrhyw un arall sy'n profi argyfwng iechyd meddwl ar gael yma:
Gwefannau/ Websites: Hafan: Iachach gyda'n Gilydd (cymru.nhs.uk)
Melo Cymru - Adnoddau, Cyrsiau a Chymorth Iechyd Meddwl a Llesiant
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L - Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (callhelpline.org.uk)