Mae Uned Gofal y Fron Ysbyty Ystrad Fawr wedi gweld nifer syfrdanol o gleifion ers ei hagor ym mis Chwefror eleni - 7430 ohonynt- ac mae gan ei thîm ymroddedig o staff gofalgar fwy o angerdd nag erioed am gefnogi cleifion drwy gydol eu taith canser y fron.
Daeth yr uned bwrpasol, a leolir yn Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach, â thimau clinigol o Nevill Hall ac Ysbytai Brenhinol Gwent â gwasanaethau'r fron o dan yr un to. Gan ddarparu gofal claf allanol, ymchwiliadau diagnostig a llawdriniaeth ar gyfer canser y fron, mae tîm yr uned yn cynnwys nifer o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol, o weithwyr cymorth gofal iechyd a nyrsys y fron, i famograffwyr, radiolegwyr, ymgynghorwyr a llawfeddygon, ynghŷd â thîm cymorth gweinyddol.
Yng ngoleuni Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae rhai o'r tîm amlddisgyblaethol yn myfyrio ar bwysigrwydd y cyfleuster newydd gwych hwn yng Ngwent a'r effaith y mae wedi'i chael ar gleifion hyd yn hyn. Gyda gofal claf o ansawdd uchel ar flaen y gad, mae'r tîm yn ymfalchïo mewn cynnig profiad di-dor, croesawgar i gleifion o'r eiliad y maent yn camu trwy ddrysau'r uned.
Mae Kay Croke, Clerc Archebu Cleifion Allanol, yn un o aelodau’r tîm sy’n croesawu cleifion yn gynnes yn y dderbynfa ac mae wrth law i ateb unrhyw ymholiadau.
Dywedodd Kay: "Rwyf wrth fy modd gyda fy rôl yma yng Nghanolfan y Fron. Mae'n rhoi boddhad mawr i helpu cleifion yn y cyfleuster newydd hwn, gan ganiatáu ar gyfer ymweliad un-stop yn hytrach na nifer o apwyntiadau gwahanol. Mae fy holl gydweithwyr yma yn wych ac yn cynnig y gofal gorau posibl i'r cleifion rydyn ni'n eu gweld."
Mae Natalie, Nyrs Glinigol Arbenigol y Fron, wedi'i ymroddi i gefnogi cleifion trwy bob cam o'u taith canser y fron, o ddiagnosis i driniaeth a gofal dilynol. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel nyrs ardal, datblygodd Natalie angerdd cryf am ofal canser y fron ar ôl gweithio'n agos gyda llawer o gleifion yr effeithiwyd gan y clefyd. Nawr, naw mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n chwarae rhan allweddol wrth arwain cleifion o atgyfeiriad hyd at adferiad ar ôl triniaeth.
Dywedodd Natalie: "Mae'n gallu bod yn amser brawychus i fynd drwyddo, felly mae cleifion angen rhywun i symleiddio'r broses a'i gwneud hi mor rhydd o straen â phosib. Mae'n fraint gallu cefnogi pobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud hyd yn oed y gwahaniaeth lleiaf yn eu bywydau."
Mae Dr Khulood Al Rawi, Radiolegydd Ymgynghorol, yn chwarae rhan bwysig iawn wrth wneud diagnosis ac arwain triniaeth trwy dechnegau delweddu uwch megis mamogramau, biopsïau, a sganiau MRI. Gan gefnogi cleifion o ddiagnosis hyd at ofal dilynol, mae Dr Al Rawi yn rhoi sicrwydd i gleifion yn ystod cyfnod heriol.
Dywedodd Dr Al Rawi: "Mae'n fraint cefnogi cleifion a'u helpu i deimlo eu bod yn cael gofal, hyd yn oed yn yr eiliadau anoddaf."
Mae Sophie, Cydymaith Meddygol, yn cynorthwyo gyda diagnosis a thrin cleifion canser y fron. Mae'n rhedeg ei chlinigau ei hun ac yn cynorthwyo mewn Theatrau, gan chwarae rhan allweddol mewn gofal y claf. Mae gan Sophie frwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar brosiect Gwella Ansawdd sy'n canolbwyntio ar wella llwybrau therapi hormonau.
Meddai Sophie: "Mae llawer o gleifion yn dod i'r uned fron yn disgwyl y gwaethaf, ond rydyn ni yma iddyn nhw bob cam o'r ffordd. Rwy'n joio rhyngweithio â phobl, ac mae'r swydd hon yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy ngwybodaeth wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn bywydau cleifion."
Mae Mr Sharat Chopra, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoplastig y Fron, yn arbenigo mewn clinigau cleifion newydd ac ail-adeiladu'r fron oncoplastig ar gyfer cleifion canser y fron ac mae ganddo angerdd am ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf tra hefyd yn datblygu ymchwil canser y fron.
Dywedodd Mr Chopra: "Rydym yn gweithio'n agos gyda chleifion i fynd trwy eu hopsiynau triniaeth yn fanwl. Mae werth chweil gweld cleifion yn elwa o dechnegau a thriniaethau newydd wrth i ni eu harwain trwy eu taith."
Mae'r tîm yn annog pawb i hunan-wirio eu bronnau yn rheolaidd am unrhyw newidiadau newydd neu gyson fel lympiau, dympio croen, neu redlifiad tethau annormal, ac i gysylltu â meddyg teulu gydag unrhyw bryderon.
I gael rhagor o wybodaeth am Uned y Fron Ysbyty Ystrad Fawr a'i gwasanaethau, ewch i: Yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr - Ar Agor Nawr! - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)
I gael rhagor o wybodaeth am Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, ewch i: Breast Cancer Awareness Month | Breast Cancer Now