Heddiw yw Diwrnod Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP).
Heddiw, rydym wrth ein bodd yn bachu ar y cyfle i ddathlu ein Timau AHP ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae llawer o feysydd y mae ein Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn gweithio ynddynt, sef:
Nawr gadewch i ni gwrdd â rhai ohonyn nhw, a chlywed beth maen nhw'n ei garu am eu gwaith.
Ar ddiwedd y swydd hon, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am weithwyr proffesiynol AHP amrywiol, a ble i fynd os hoffech ddechrau gyrfa fel AHP.
Nicola Pritchard-Jones: Uwch Orthoptydd
Rydym yn gweithio yn Adran Orthopteg, Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, ein prif rôl yw gwneud diagnosis a thrin namau sy’n effeithio ar symudiad y llygaid a’r ffordd y mae'r llygaid yn gweithio gyda'u gilydd.
'Rwy'n mwynhau'r ystod amrywiol o gleifion yr ydym yn eu gweld yn arbennig; nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae gweithio'n agos gyda chleifion a meithrin perthynas â nhw, tra'n ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl iddynt yn rhoi boddhad mawr. Rwy'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, ac rwy’n gwerthfawrogi mewnbwn pawb fel rhan o'r broses adsefydlu i adferiad y claf.'
Keziah Abraham: Orthotydd
Ymunodd Keziah â’n tîm Orthoteg yn ddiweddar ac mae wedi ymgartrefu’n dda iawn. Mae Keziah yn frwd dros ddarparu gwasanaeth orthoteg o ansawdd uchel.
'I mi, mae ansawdd a diogelwch mewn ymarfer orthoteg yn golygu cyflawni safon uchel o ofal i wella boddhad a chanlyniadau cleifion. Felly, gall darparu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran thriniaeth orthotig olygu y gall y claf fod mor annibynnol â phosibl a chymryd cymaint o ran ag y maent yn dymuno yn gymdeithasol.
Joy Dando: Seicotherapydd Cerdd
Mae Joy’n gweithio yn Nhŷ Siriol gydag Oedolion Hŷn, fel Therapydd Cerdd.
'Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael gweithio gydag Oedolion Hŷn. Rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan eu straeon a’u hatgofion ac rwy’n ymdrechu bob dydd i fod yn bresennol, ar gael, yn dosturiol ac yn broffesiynol. Mae gen i gymaint o barch at bob unigolyn, eu dycnwch a'u penderfynoldeb a sut maent yn wynebu eu hanawsterau. Rwy'n caru fy swydd, rwyf wrth fy modd â'r ffordd y mae pob diwrnod yn wahanol, yn heriol ac yn rhoi boddhad.'
Julie Lee: Podiatrydd
Mae Julie yn bodiatrydd profiadol iawn sy’n gweithio gyda chleifion sydd â phroblemau traed acíwt, yn aml o ganlyniad i ddiabetes neu glefyd fasgwlaidd.
'Mae ansawdd i mi yn ymwneud â gwneud y gorau y gallaf ei wneud i bob claf a welaf, yn fy rôl yn aml mae'n ymwneud â cheisio gwella clwyfau er mwyn osgoi gorfod torri’r droed i fwrdd. Rwy'n mwynhau dysgu a rhoi ymchwil ar waith i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth effeithiol a diogel i'r cleifion sydd angen ein cymorth.'
Dietegwyr
Mae ein Deietegwyr yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys adsefydlu ac adferiad, darparu cymorth ar faeth i gleifion cyffredinol a chleifion cymhleth gan ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau dietetig gan gynnwys cymorth ar faeth trwy'r geg, dietau wedi'u haddasu o ran gwead, bwydo trwy diwb a deietau therapiwtig eraill, a llawer mwy.
'Rwy'n ffodus iawn fy mod yn gweithio gyda thîm gwych a brwdfrydig o Ddeietegwyr a thîm gofal critigol amlddisgyblaethol sy'n fy ysbrydoli bob dydd gyda'r gofal tosturiol y maent yn ei ddarparu. Rwyf wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol ac yn dod â heriau newydd ac mae'n rhoi cymaint o foddhad pan rydym ym gweld cleifion yn gwella ac yn mynd adref gan wybod ein bod wedi chwarae rhan yn eu helpu i gyflawni hynny.' - Lucy Morgan (Deietegydd Arweiniol ar gyfer Gofal Critigol ac Arweinydd Tîm ar gyfer Ysbyty Athrofaol y Faenor)
'Rwy’n caru heriau a gwneud gwahaniaeth ym mywyd cleifion. Rwy'n mwynhau defnyddio fy ngwybodaeth glinigol a thrafod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill er mwyn cefnogi cleifion sydd â chlefyd yr afu.' - Eman Akasha (swydd datblygiadol Dietegydd Cofrestredig Band 5 i 6)
Joanna White: Prif Therapydd Iaith a Lleferydd ac Macmillan
Mae Joanna yn gweithio'n bennaf gyda phobl sydd â chanser y pen a'r gwddf ac mae’n arwain tîm o Therapyddion Iaith a Lleferydd yn y maes hwn.
'Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth a her fy swydd; nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath. Rwy'n mwynhau gallu siapio gwasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd er budd trigolion ein bwrdd iechyd.'
Sarah a Jess: Tîm Cymunedol Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn
Mae Sarah a Jess yn gweithio o fewn y gwasanaeth asesu cof a'r tîm iechyd meddwl eilaidd. Mae Sarah, Uwch Therapydd Galwedigaethol (OT), yn arbennig yn mwynhau cefnogi pobl sydd â dementia cynnar i feithrin sgiliau i reoli anawsterau cof tymor byr.
'Helpu pobl i nodi'r hyn sydd bwysicaf iddynt, adennill gobaith y gallant fyw bywyd ystyrlon, er gwaethaf anawsterau, yw'r rhan orau o fy swydd!'
Mae Jess, Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol (OTSW), wir yn sylweddoli gwerth cefnogi unigolion i gyrraedd eu nodau ac mae'n mwynhau cyflwyno addasiadau a thechnoleg ddigidol i unigolion a'u teuluoedd yn arbennig, a defnyddio dull graddol er mwyn ailadeiladu hyder.
'Mae gweld unigolion yn cymryd rhan weithredol eto ym mywyd y teulu ac yn hapus ac yn falch o'u cyflawniadau, yn gwneud fy swydd yn werth chweil.'
Rochelle Eccles: Uwch Therapydd Galwedigaethol
Mae Rochelle yn gweithio fel rhan o’r tîm gofal lliniarol yn YYF ac mae’n angerddol am ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i’r cleifion a’r teuluoedd y mae’n gweithio gyda nhw.
'Rwy'n cael llawenydd a boddhad swydd bob dydd o weld cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, wedi'u hamgylchynu gan eu hanwyliaid a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.'
Chris Lloyd: Uwch Reolwr Ffisiotherapi
Mae Chris yn un o 2 Uwch Reolwr Ffisiotherapi sydd wedi’u lleoli’n Ysbyty Sant Cadog ac sy’n goruchwylio nifer o feysydd o fewn y gwasanaeth ffisiotherapi gan gynnwys Cyhyr-ysgerbydol (MSK), Iechyd y Pelfis, Paediatreg ac Anableddau Dysgu Oedolion.
“Mae ffisiotherapi’n broffesiwn anhygoel i weithio ynddo, ac rwy’n dal yn hynod falch fy mod yn gallu galw fy hun yn ffisiotherapydd. Mae’r swydd yn amrywiol iawn ac o fewn y GIG yn unig, gall gwmpasu ystod eang iawn o arbenigaethau a meysydd clinigol. Fel ffisiotherapyddion rydym yn trin pobl o bob oed ac mae’r boddhad o allu helpu eraill i sylweddoli eu llawn botensial yn werth chweil.
I ddysgu mwy am y rolau amrywiol o fewn AHP, ewch i: Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) - AaGIC (nhs.wales)
Ar gyfer rolau a gyrfaoedd:
Rolau a Gyrfaoedd AHP - AaGIC (nhs.wales
#CymunedAHP #DiwrnodAHPs