Dydd Mercher 16eg Hydref
Annwyl bawb,
Rydym yn estyn allan i ofyn am eich cefnogaeth wrth gylchredeg ein harolwg diweddaraf gyda'ch rhwydweithiau. Nod ein harolwg yw darganfod profiadau pobl o gael mynediad at ofal brys mewn ysbyty.
Mae ein harolwg yn fyw o 30 Medi - 27 Hydref. Yn ogystal, rydym yn cynnal sesiwn adborth ar-lein ddydd Mercher 23 Hydref, rhwng 6pm a 7pm.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i bobl rannu eu profiadau yn uniongyrchol gyda ni.
Os hoffai pobl ymuno â'n sesiwn ar-lein, gallant gysylltu â ni ar 01633 838516 / gwentenquiries@llaiscymru.org .
Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech rannu'r arolwg a manylion y sesiwn adborth gyda'ch rhanddeiliaid.