Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Newid i Faniau Trydan i Leihau Ôl Troed Carbon

11 Hydref 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wedi cymryd cam sylweddol tuag at gynaliadwyedd drwy ddisodli ei fflyd o gerbydau cynnal a chadw disel gyda faniau trydan. Daw'r newid hwn yn sgil yr angen i adnewyddu'r fflyd bresennol a chreu arbedion ariannol ac amgylcheddol.

Eglurodd Simon Green, Swyddog Trafnidiaeth BIPAB: “Rhoddodd y pandemig gyfle i ni ystyried dewisiadau amgen mwy ecogyfeillgar.” Mae'r bwrdd iechyd wedi penderfynu newid ei gerbydau diesel am Faniau Trydan Renault Kangoo, gan alinio â thuedd gynyddol o newid i gerbydau trydan (EV).

Disgwylir i'r newid hwn i gerbydau trydan arwain at arbedion sylweddol o ran tanwydd. Mae tîm yn amcangyfrif y bydd y Bwrdd Iechyd yn arbed tua £6,500 y flwyddyn ar gostau tanwydd, sy'n cyfateb i tua 4,000 litr o ddiesel y flwyddyn. Er mai bychan yw effaith cerbyd ar ei ben ei hun, gyda’i gilydd, byddant yn lleihau ôl troed carbon y bwrdd iechyd yn sylweddol.

Yn ôl Matthew Lane, Rheolwr Ynni: “Mae pawb yn ymwybodol o’r symud sy’n digwydd yn genedlaethol tuag at EV. Ynghlwm wrth hyn mae arbediad carbon, sef ychydig yn llai na 12,500kg cyfwerth â charbon yn cael ei arbed y flwyddyn.”

“Mae’r symudiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i strategaeth genedlaethol y GIG,” meddai Matthew. "Mae amcanion y strategaeth hon yn cynnwys newid i fflyd cerbydau trydan, ac mae ein Hadran Ystadau wedi ymrwymo'n llwyr i'r nodau hyn."

Bydd y faniau trydan newydd yn cael eu defnyddio gan yr is-adran Ystadau a Chyfleusterau, a bydd hyn yn galluogi crefftwyr i deithio rhwng safleoedd yn ardal y bwrdd iechyd er mwyn cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau ysbytai.

Mae'r fenter hefyd yn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd yn 2019. Mynegodd Simon Green, tad a thaid, ei bryder personol am yr etifeddiaeth sy’n cael ei gadael i genedlaethau'r dyfodol. “Mae angen i ni weithredu nawr er mwyn sicrhau eu diogelwch yn y dyfodol.”

Mae’r newid hwn i faniau trydan yn un o lawer o gamau rhagweithiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy, gan alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.